Mae cyn-feddyg Team Sky a British Cycling, Dr Richard Freeman, yn euog o archebu testosteron gan wybod neu gredu y byddai’n cael ei roi i feiciwr at ddibenion dopio, yn ôl tribiwnlys.

Fe wnaeth Richard Freeman gyfaddef i 18 o 22 cyhuddiad yn ei erbyn yn ymwneud ag archebu pecyn o Testogel i bencadlys British Cycling yn 2011, ond gwrthododd y cyhuddiad ynglŷn â’i ddiben.

Cuddio ymddygiad

Honnodd Dr Richard Freeman wrth y tribwnlys fod y testosteron wedi’i archebu i drin cyflwr oedd yn ymwneud gyda mannau preifat y cyn-gyfarwyddwr perfformiad Shane Sutton.

Mae Shane Sutton yn gwadu hynny.

Penderfynodd y tribiwnlys hefyd mai’r cymhelliad i weithredoedd Dr Richard Freeman oedd cuddio ei ymddygiad.

Yr un cyhuddiad na chafodd ei brofi oedd fod Dr Richard Freeman yn gwybod nad oedd y Testogel ar gyfer Shane Sutton.