Bydd blaenasgellwr Cymru, Aaron Shingler yn gwisgo crys y Scarlets am y tro cyntaf ers blwyddyn heno (nos Wener, Mawrth 12) wrth i’r Scarlets herio Munster oddi cartref.
Ar hyn o bryd mae’r Scarlets yn drydydd yng Nghynghrair B y Guinness Pro 14 a gallan nhw sicrhau eu lle yng Nghwpan Pencampwyr Heineken y tymor nesaf gyda buddugoliaeth yn Iwerddon heno.
Fe wnaeth buddugoliaeth drawiadol 27-25 yr wythnos ddiwethaf yng Nghaeredin godi’r Scarlets wyth pwynt yn glir o Gleision Caerdydd, gyda dim ond dwy gêm yn weddill.
Ond bydd arweinwyr Cynhghrair B, Munster, yn chwilio am eu pumed buddugoliaeth yn olynol ers iddynt golli yn erbyn Leinster yn ôl ym mis Ionawr.
Bydd darllediad byw o’r gêm ar S4C heno, gyda’r gic gyntaf am 7:55yh.
Aaron Shingler yn ôl
Chwaraeodd y Cymro ei gêm ddiwethaf o rygbi ym mis Mawrth 2020 pan gollodd Cymru yn erbyn Lloegr yn Twickenham.
“Mae Aaron yn arwr i’r clwb ac mae’n golygu lot iawn i’w gael yn ôl,” meddai capten y Scarlets, Steff Hughes.
“Mae’r hyn y mae’n ei ddod i’n gêm yn enfawr. Mae pawb yn ei barchu ac yn caru sut mae’n mynd o gwmpas ei waith.
“Mae wedi bod yn gweithio’n galed iawn yn y cefndir ac mae wedi gwneud gwaith da iawn i ddychwelyd.
“Bydd yn gyflawniad gwych iddo fynd yn ôl allan yno, mynegi ei hun, a gobeithio dychwelyd i’r lefel yr oedd arno cyn iddo gael yr anaf.”
Cefnogaeth deuluol i bob chwaraewr yn bwysicach nag erioed
Mae Prif Hyfforddwr y Scarlets, Glenn Delaney, wedi talu teyrnged i rôl partner Aaron Shingler, Kate, yn ei adferiad ac mae Steff Hughes hefyd yn credu bod tymor heb gefnogwyr wedi gwneud cefnogaeth deuluol i bob chwaraewr yn bwysicach nag erioed.
“Mae wedi bod yn anodd i deuluoedd y tymor hwn gan nad ydyn nhw wedi gallu dod i gemau a’n cefnogi ni,” meddai Steff Hughes.
“Mae’n rhywbeth rydyn ni’n ymfalchïo ynddo – ein bod ni’n cael y gefnogaeth honno, bod y clwb fel teulu mawr ac mae’n fwy na dim ond slogan farchnata.”
Munster v Scarlets yn fyw ar S4C, y gic gyntaf am 7.55