Mae Steve Cooper yn dweud y gall y Cymry yng ngharfan bêl-droed Abertawe elwa o’r flwyddyn fawr sydd i ddod i’r tîm cenedlaethol ac i’r Elyrch eu hunain.
Fe fu rheolwr Abertawe’n siarad â golwg360 yn ystod y gynhadledd i’r wasg wrth i’w dîm baratoi i herio Luton oddi cartref yn y Bencampwriaeth amser cinio heddiw (12.15yp, dydd Sadwrn, Mawrth 13).
Mae’n un o’r gemau prin hynny pan fydd dau Gymro – Steve Cooper a Nathan Jones, rheolwr Luton – yn herio’i gilydd ac fe fu rheolwr Abertawe’n siarad am ei falchder fel Cymro o Bontypridd o gael arwain Abertawe.
Connor Roberts a Ben Cabango
Dau chwaraewr sy’n sicr yn falch o fod yn Gymry yw Connor Roberts a Ben Cabango, dau amddiffynnwr fydd yn gobeithio cael chwarae eu rhan yn ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd yn ogystal â’r Ewros yn yr haf.
Yn ôl Steve Cooper, bydd eu profiadau ar y cae i Abertawe a Chymru o fudd i’r clwb ac i’r tîm cenedlaethol.
“Os oes gan y bois bêl-droed ryngwladol i edrych ymlaen ati ar ddiwedd y tymor, byddan nhw am wneud yn dda i sicrhau eu bod nhw’n cael eu dewis yn y tîm,” meddai wrth golwg360.
“Os gwnawn nhw, bydd hynny wedyn o fudd i’r clwb maen nhw’n chwarae iddo ac mae’r tîm cenedlaethol hefyd yn elwa pan ddaw i chwarae pêl-droed ryngwladol.
“Felly dwi’n meddwl bod pawb ar eu hennill pan fo’r bois sy’n chwarae dros eu tîm cenedlaethol yn chwarae’n dda ac yn cael llawer o funudau [ar y cae].
“Mae Ben a Connor yn amlwg yn dechrau llawer o gemau ac yn chwarae’n dda i ni, Abertawe sy’n dod gyntaf yn fy meddwl i ac os yw e o fudd i Gymru pan ddaw i hynny, wel mae hynny’n wych, ond mae’n wych oherwydd byddan nhw wedi gwneud yn dda i ni a dyna dwi’n canolbwyntio arno.”
Cwrso dyrchafiad
Byddai buddugoliaeth dros Luton yn codi’r Elyrch i’r ail safle dyrchafiad awtomatig gydag 11 o gemau’n weddill.
Mae gan yr Elyrch, Brentford a Watford 66 o bwyntiau’r un ond mae’r Elyrch wedi chwarae un gêm yn llai na’r ddau dîm arall.
Mae Watford yn herio Caerdydd heddiw, tra bod Brentford yn cael seibiant tan nos Fawrth (Mawrth 16).
Ar ôl colli allan yn erbyn Brentford yn y gemau ail gyfle y tymor diwethaf, mae gan yr Elyrch obaith gwirioneddol y tymor hwn o ennill dyrchafiad awtomatig.
Byddai cael dychwelyd i’r Uwch Gynghrair yn sicr o fudd i’r Cymry yn y garfan ond yr holl chwaraewyr eraill hefyd, yn ôl Steve Cooper.
“Rydyn ni i gyd yn ymdrechu i gyrraedd y safle gorau posib, dw i’n credu mai dyna fu’r nod yn ein bywydau ni i gyd ac yn ein hachos ni, yn y byd pêl-droed. Dydy hynny ddim yn rhywbeth newydd.
“Rydyn ni’n meddwl bob dydd am ymdrechu i gyrraedd y lefel nesaf a dyna fyddwn ni’n ei wneud.”
Ac roedd ganddo fe air o ganmoliaeth i Nathan Jones, un arall o reolwyr y Rhondda, ar drothwy’r gêm.
“Dw i’n credu ei fod e wedi gwneud yn dda eleni,” meddai.
“Dw i bob amser yn treulio ychydig o amser gyda fe pan ydyn ni’n chwarae yn erbyn ein gilydd, yn dal i fyny.
“Er nad ydyn ni’n nabod ein gilydd yn dda iawn, ry’n ni’n dod o’r un ardal yn y byd ac yn amlwg, rydyn ni eisiau chwarae’n dda a churo’n gilydd ar y penwythnos ond dim ond parchu’n gilydd fyddwn ni, yn sicr.”
Balchder y Cymro
Wrth siarad am ei falchder o fod yn Gymro wrth y llyw yn un o glybiau pêl-droed Cymru, dywed ei fod e’n gallu uniaethu’n well â’r cefnogwyr.
“Hwntw ydw i, ry’n ni’n deip arbennig o ran y ffaith ein bod ni’n gweithio’n galed am yr hyn sydd gyda ni a dwi’n credu bod Abertawe’n sicr yn enghraifft dda o hynny,” meddai.
“Mae’n sicr yn wir am y clwb pêl-droed hefyd, felly efallai ’mod i’n deall hynny ychydig yn well hefyd, dw i ddim yn siŵr.
“Ond dwi wrth fy modd fy mod i’n Gymro a ’mod i’n rheoli clwb Cymreig, mae wir yn golygu cymaint i fi, dwi’n gwybod pa mor bwysig yw’r clybiau yng Nghymru a faint o statws sydd ganddyn nhw.
“Mae’n bwysig i fi wrth feddwl mai fi yw’r rheolwr neu’r prif hyfforddwr, beth bynnag ydw i, gyda chlwb fel Abertawe sydd ag enw gwych, yn uchel ei barch ledled y byd pêl-droed, ac mae gyda ni werthoedd a hunaniaeth, mae meddwl y galla i fod yn rhan o hynny fel Cymro’n bwysig i fi.”
Ond beth am y Cymro ar y fainc arall heddiw?
“Mae Nathan wedi cael tymor da iawn gyda’i dîm e,” meddai.
“Fe gawson ni gêm anodd iawn yma [buddugoliaeth o 2-0 yn Stadiwm Liberty ym mis Rhagfyr], ond fe aeth o’n plaid ni yn y diwedd ond roedd hi’n gêm lle’r oedd rhaid i ni weithio’n galed a chwarae’n dda er mwyn ennill a dwi’n siŵr y bydd hon yr un fath, yn enwedig oddi cartref.
“Maen nhw [Luton] yn griw ymroddgar o chwaraewyr sy’n chwarae pêl-droed yn dda ac mae ganddyn nhw ffordd o chwarae, felly byddwn ni’n barod am hynny, yn sicr.
“Ry’n ni eisiau dychwelyd i’r trywydd iawn o ran ein perfformiadau ni.”
Blwyddyn heb gefnogwyr
Aeth blwyddyn heibio bellach ers i gefnogwyr gael mynd i gemau pêl-droed yng Nghymru ac yn Lloegr.
Ac yn ôl Steve Cooper, mae e’n gweld eisiau’r awyrgylch yn y stadiwm, yn enwedig y canu Cymreig ar y terasau.
“Mae gyda ni rai caneuon emosiynol iawn mae ein cefnogwyr yn eu canu, sy’n gysylltiedig â’n cymuned a’n treftadaeth Gymreig,” meddai wrth y cyfryngau Prydeinig.
“Ry’n ni’n canu emynau sy’n bwerus ac mae pobol fel fi sydd wedi ein magu yng Nghymru ac mewn ysgolion Cymreig yn canu’r math yna o ganeuon ar ddechrau’r ysgol.
“Felly mae meddwl eu bod nhw’n golygu rhywbeth i’n cefnogwyr ni ac i’r clwb pêl-droed yn anhygoel, wir.
“Bydd eiliadau fel y rhain yn annwyl iawn i ni pan fyddan nhw’n dod eto.
“Dwi’n credu ei bod hi wedi bod yn anodd iawn heb gefnogwyr, ry’n ni wedi cael rhai eiliadau gwych dros y 12 mis diwethaf, a dw i a phobol eraill yn meddwl y byddai’r lle wedi bod yn wyllt pe bai’r cefnogwyr wedi bod yma.
“Ond yr hyn sy’n rhaid i ni ei wneud fel tîm yw parhau i weithio mor galed ag yr y’n ni oherwydd dyna mae’r cefnogwyr eisiau ei weld, sef tîm sy’n falch o’u gwaith caled a’r ffordd ry’n ni’n chwarae.
“Ry’n ni bob amser yn anelu at y pethau hynny.
“Pan fydd ein stadiwm ni’n llawn eto – ac ychydig iawn o brofiad o’n cefnogwyr dwi wedi’i gael oherwydd fe wnaeth y cyfan gau 12 mis yn ôl – dwi wedi cael digon o brofiad i wybod fod ein lle ni’n arbennig iawn wrth i bawb ddod at ei gilydd felly pan ddaw’r eiliad honno eto, bydd e’n rhywbeth y bydd pawb yn ei drysori – all hynny ddim dod yn ddigon cyflym, mae hynny’n sicr.”