Fydd tîm rygbi Cymru ddim yn gorffwys ar eu rhwyfau yn erbyn yr Eidal yn Rhufain heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 13), yn ôl y maswr Dan Biggar.

Mae’n dweud y byddan nhw’n mynd ati yn yr un modd â phe baen nhw’n herio Lloegr – er bod yr Eidal heb fuddugoliaeth ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ers iddyn nhw guro’r Alban o 22-19 yn 2015.

Pe baen nhw’n ennill heddiw ac yn curo Ffrainc yr wythnos nesaf, byddai tîm Wayne Pivac yn ennill y Gamp Lawn – a hynny’n gwbl annisgwyl yn ôl rhai sylwebyddion.

Fe wnaethon nhw gipio’r Goron Driphlyg wrth guro Lloegr o 40-24 fis diwethaf.

“Dydyn nhw [yr Eidal] yn amlwg ddim wedi bod yn cael canlyniadau – mae hynny wedi’i nodi’n helaeth – ond maen nhw’n dîm sydd â naw a 10 sy’n dod â chryn gyflymdra i’r gêm,” meddai.

Y chwaraewr yng nghrys rhif naw yr Eidal yw’r Cymro Stephen Varney, mab cyn-flaenasgellwr Castell-nedd Adrian, sydd â theulu Eidalaidd ar ochr ei fam.

“Maen nhw’n dîm ymosodol â bygythiadau, ac os ydyn ni am feddwl ein bod ni’n mynd allan i’r Eidal yn yr haul i gael gwneud gwaith hawdd, yna byddwn ni’n cael cryn alwad i ddihuno!

“Mae’r meddylfryd union yr un fath â phe baen ni’n herio Lloegr eto.

“Mae’n debyg ein bod ni wedi cael rhywfaint o lwc yn y tair gêm gyntaf, ond mae’n un o’r pethau hynny lle does dim ots gyda chi os mai chi sy’n cael y lwc.

“Rydyn ni’n falch o gael bod lle’r ydyn ni gyda gêm yn erbyn yr Eidal i ddod, ond rydyn ni wedi bod yn canolbwyntio’r wythnos hon ar feithrin yr un meddylfryd ag oedd gennym ar gyfer Lloegr gartref.”

Trip i Rufain – cam at Gamp Lawn?

Alun Rhys Chivers

Mae un o sylwebwyr rygbi S4C yn credu y gall Cymru ddechrau meddwl am Gamp Lawn, ond bod rhaid cymryd y gêm yn erbyn yr Eidal bnawn Sadwrn o ddifrif

Cymru’n dathlu’r Goron Driphlyg

Tîm Wayne Pivac wedi sicrhau’r tlws gyda buddugoliaeth o 40-24 dros Loegr yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd