Mae dau aelod o staff Academi Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cael eu gwahardd o’u gwaith am gyfnod yn sgil honiadau o fwlio.
Mae’r clwb yn cynnal ymchwiliad wrth iddyn nhw gydweithio â Chymdeithas Bêl-droed Lloegr a’r Gynghrair Bêl-droed ar sawl digwyddiad hanesyddol.
Mewn datganiad, dywed y clwb eu bod nhw’n trin yr honiadau’n “ddifrifol dros ben”.
Fe wnaeth cyn-ymosodwr Cymru, Craig Bellamy adael ei swydd yn hyfforddwr y tîm dan 18 ym mis Ionawr 2019 yn dilyn ymchwiliad i honiadau yn ei erbyn.
Roedd e’n gwadu’r honiadau, ac fe symudodd i glwb Anderlecht yng Ngwlad Belg rai misoedd yn ddiweddarach.
Daeth ymchwiliad o hyd i “nifer o bryderon arwyddocaol”, gan ddod i’r casgliad hefyd fod yna “amgylchfyd hyfforddi annerbyniol” yn y clwb.