Sgoriodd Conor Hourihane unig gôl y gêm wrth i dîm pêl-droed Abertawe guro Luton oddi cartref yn y Bencampwriaeth.

Mae’r canlyniad yn gweld yr Elyrch yn codi i’r safleoedd dyrchafiad awtomatig.

Hon oedd pumed gôl y Gwyddel sydd ar fenthyg o Aston Villa, ac fe gafodd e gymorth gan Yan Dhanda gyda’i groesiad yn rhoi ergyd hawdd iddo at y gôl ar ôl tair munud.

Hon hefyd oedd deunawfed llechen lân yr Elyrch y tymor hwn, ac maen nhw wedi ennill 10 allan o’r 12 pwynt diwethaf.

Ar ôl bod yn destun beirniadaeth yn sgil nifer y ciciau o’r smotyn maen nhw wedi’u cael yn ddiweddar, fe allen nhw fod wedi cael un arall pan gafodd Ryan Manning ei lorio gan y golwr Simon Sluga.