Bydd tîm rygbi Cymru’n mynd am y Gamp Lawn yn Paris nos Sadwrn nesaf (Mawrth 20), ar ôl curo’r Eidal o 48-7 ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Rhufain heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 13).

Roedden nhw eisoes wedi cipio pwynt bonws yn ystod hanner awr cynta’r gêm wrth sgorio pedwar cais – dau i’r bachwr Ken Owens, ac un yr un i’r asgellwr Josh Adams a’r chwaraewr rheng ôl Taulupe Faletau.

Daeth ceisiau yn yr ail hanner i George North, Callum Sheedy a Louis Rees-Zammit gyda Dan Biggar yn trosi tri ac yn cicio cic gosb, a Callum Sheedy yn trosi un arall.

Daeth unig sgôr yr Eidal wrth i’r asgellwr Monty Ioane groesi am gais, a Paolo Garbisi yn trosi.

Hanner cyntaf

Gwnaeth Cymru ddau newid, gyda Gareth Davies yn dechrau yn safle’r mewnwr yn absenoldeb Kieran Hardy, a’r clo Cory Hill yn dod i mewn yn lle Adam Beard.

Cafodd y Cymro Stephen Varney ei enwi yn nhîm yr Eidal ar ôl bod allan o’r gêm yn erbyn Iwerddon oherwydd anaf.

Roedd Cymru ar y blaen o fewn tair munud wrth i Dan Biggar gicio cic gosb o 40 metr, gyda’r capten Luca Bigi yn cael ei anfon i’r gell gosb ac yn rhoi cyfle i Gymru ymosod.

Oddi ar bàs hir, fe wnaeth Biggar ddarganfod yr asgellwr Josh Adams, wnaeth groesi yn y gornel am ei unfed cais ar bymtheg dros ei wlad. Ychwanegodd Biggar y ddau bwynt.

Daeth ail gais tra bo’r Eidalwyr i lawr i 14 dyn, gyda Louis Rees-Zammit yn pasio i’r wythwr Taulupe Faletau a hwnnw’n hyrddio drosodd.

Daeth trydydd cais nerthol oddi ar lein, gyda Ken Owens yn croesi, a throsiad Biggar yn rhoi Cymru ar y blaen o 22-0.

Daeth y pwynt bonws ar ôl hanner awr wrth i Owens hyrddio eto i groesi.

Gallai Rees-Zammit fod wedi sgorio cyn yr egwyl, ond roedd y bàs o ddwylo Biggar wedi mynd ymlaen.

Hanner amser: Yr Eidal 0 Cymru 27

Sgoriodd Cymru eto ar ôl dwy funud o’r ail hanner, gyda’r canolwr Jonathan Davies yn rhyddhau George North yn y canol, a hwnnw’n gwibio i sgorio’i ail gais ar hugain yn y Chwe Gwlad, gan ddod yn gyfartal â record Shane Williams.

Roedd Cymru ar y blaen o 34 pwynt wrth i Willis Halaholo ddod i’r cae yn lle North

Ond daeth unig sgôr yr Eidal wedyn wrth i’r asgellwr Monty Ioane groesi a’r maswr Paolo Garbisi yn ychwanegu dau bwynt.

Gallai Adams fod wedi ychwanegu cais arall ond fe wnaeth e fethu â thirio’n lân, gyda chryn drafodaeth rhwng y dyfarnwyr.

Daeth Callum Sheedy i’r cae yn lle Biggar, ochr yn ochr â’r clo Jake Ball wrth i hwnnw ennill ei hanner canfed cap.

Daeth ail garden felen i’r Eidal pan gafodd Marco Riccioni ei anfon i’r gell gosb am dacl beryglus ar Halaholo.

Daeth saith pwynt arall i Gymru gyda Sheedy yn trosi ei gais ei hun ar ôl awr.

Rhedodd Rees-Zammit 70 metr ar ôl rhyng-gipio’r bêl a sgorio’i bumed cais mewn wyth gêm dros ei wlad, gyda Sheedy yn trosi.

Josh Navidi, serch hynny, oedd seren y gêm.

Gallai Alun Wyn Jones dorri tir newydd yr wythnos nesaf gyda phedwaredd Camp Lawn, ac roedd Ken Owens hefyd wedi torri record heddiw drwy fod y bachwr cyntaf ers Shane Byrne i sgorio dau gais mewn gêm yn y Chwe Gwlad.

Yr ymateb

Yn ôl Wayne Pivac, prif hyfforddwr Cymru, mae’r tîm mewn sefyllfa gref ar drothwy’r penwythnos olaf yn Ffrainc.

“Wnaethon ni gyflawni’r hyn roedden ni eisiau ei gyflawni fwy neu lai,” meddai wrth raglen Clwb Rygbi ar S4C.

“Dydyn ni ddim wedi cael y perfformiad 80 munud yna eto ond mae’n ein rhoi ni mewn lle da ar gyfer yr wythnos nesaf.

“Wnaethon ni drafod bod yn glinigol iawn wrth gael y cyfleoedd ac fe wnaethon ni adael ychydig [o gyfleoedd] allan yna, ond dw i’n falch o gael y pum pwynt.

“Roedd cael y pwynt bonws hwnnw erbyn hanner amser yn ein galluogi ni i ddod â rhai o’r bois oddi ar y cae na fydden ni fel arfer yn eu tynnu nhw i ffwrdd mor gynnar yn y gêm.”

Yn ôl y capten Alun Wyn Jones, roedd yr ail hanner yn destun “rhwystredigaeth”.

“Ond mae’n fater o fod wedi gwneud y gwaith ac mae digon i weithio arno,” meddai.

“Mae’r cyffroi dw i’n ei deimlo bob tro wrth wisgo’r crys coch hwn yn anorchfygol, felly dwi’n edrych ymlaen at fynd nôl iddi eto ddydd Llun a pharatoi ar gyfer y penwythnos nesaf.”