Roedd yn ddiwrnod cymysg i dimau pêl-droed Cymru yng nghynghreiriau Lloegr heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 13).
Cododd Abertawe i’r safleoedd dyrchafiad awtomatig wrth iddyn nhw guro Luton oddi cartref o 1-0 amser cinio, ond wnaeth hynny ddim para’n hir, wrth i Watford guro Caerdydd o 2-1 i godi’n ôl uwchben yr Elyrch, sydd wedi gostwng i’r trydydd safle ac i mewn i’r safleoedd ail gyfle.
Mae Casnewydd yn bedwerydd yn yr Ail Adran ar ôl curo Morecambe oddi cartref o 3-1, ac mae Wrecsam hefyd yn bedwerydd yn y Gynghrair Genedlaethol ar ôl cipio triphwynt wrth guro Weymouth o 2-0 ar y Cae Ras.
Caerdydd 1-2 Watford
Collodd yr Adar Gleision am y tro cyntaf ers i Mick McCarthy gael ei benodi’n rheolwr, a hynny mewn modd dramatig wrth i’r ymwelwyr sgorio’r gôl fuddugol ar ôl 93 munud.
Ar ôl ennill yn gynharach yn y dydd, roedd yr Elyrch yn edrych am ffafr gan eu gelynion pennaf er mwyn atal Watford rhag codi uwch eu pennau, ac fe ddechreuodd y gêm yn addawol i ddau dîm y de, gyda Francisco Sierralta yn taro’r bêl i’w rwyd ei hun oddi ar groesiad Josh Murphy.
Ond fe wnaeth Watford unioni’r sgôr o fewn dim o dro wrth i Nathaniel Chalobah yrru’r bêl i’r rhwyd o ymyl y cwrt cosbi.
Chwip o gic rydd sicrhaodd y triphwynt i Watford, sy’n codi uwchben Abertawe ar sail gwahaniaeth goliau, er eu bod nhw wedi chwarae un gêm yn fwy na’r Elyrch.
Mae’r Adar Gleision saith pwynt islaw’r safleoedd ail gyfle erbyn hyn, a hynny ar ôl colli am y tro cyntaf mewn 12 o gemau o dan y Gwyddel o Barnsley.
Morecambe 1-3 Casnewydd
Cafodd Casnewydd fuddugoliaeth hollbwysig oddi cartref yn erbyn deg dyn Morecambe – canlyniad sy’n eu codi nhw i fyny’r tabl ac yn cadw eu gobeithion o ddyrchafiad yn fyw.
Aeth yr Alltudion ar y blaen o’r smotyn ar ôl wyth munud, a hynny ar ôl i amddiffynnwr Morecambe lawio’r bêl yn y cwrt cosbi, a Matty Dolan yn sgorio o ddeuddeg llathen.
Ond roedd Morecambe yn gyfartal o fewn deuddeg munud, diolch i chwip o ergyd gan Yann Songo’o, y chwaraewr canol cae yn ei thanio hi o 25 llathen heibio i Nick Townsend.
Roedd Morecambe i lawr i ddeg dyn ar ôl 37 munud pan gafodd Sam Lavelle, eu capten, ei anfon o’r cae am dynnu Ryan Taylor yn ôl wrth iddo fe fynd am y gôl.
Aeth yr Alltudion ar y blaen yn yr amser a ganiateir am anafiadau wrth i Josh Sheehan dorri i mewn o’r asgell a tharo ergyd gadarn heibio i’r golwr o ymyl y cwrt cosbi.
Daeth y drydedd gôl ar ôl 78 munud pan darodd Kevin Ellison ergyd â’i droed chwith o ddeuddeg llathen yn erbyn ei hen glwb.
Wrecsam 2-0 Weymouth
Daeth dwy gôl Wrecsam yn yr ail hanner, wrth i Theo Vassell a Jordan Ponticelli rwydo yn erbyn Weymouth ar y Cae Ras.
Daeth Josh McQuoid yn agos i’r ymwelwyr yn ystod yr hanner cyntaf, ond cafodd ei beniad ei arbed gan Christian Dibble.
Tarodd Dior Angus y trawst cyn i Vassell benio i’r gôl oddi ar gic gornel Jamie Reckord.
Seliodd yr eilydd Ponticelli y fuddugoliaeth gyda’i gôl gyntaf y tymor hwn.
Yr ymateb i fuddugoliaeth Abertawe
Yn ôl Steve Cooper, roedd sicrhau’r fuddugoliaeth dros Luton yn bwysicach na steil y chwarae.
“Yn amlwg, rydyn ni’n hapus gyda’r triphwynt a’r llechen lân,” meddai.
“Roedd hi’n gêm anodd i chwarae ynddi, dydy Luton ddim yn colli llawer o gemau yma ac rydych chi’n taflu’r cae a’r gwynt i mewn, ac roedd hi’n argoeli i beidio â bod yn gêm bert.
“Felly y canlyniad a’r triphwynt yw’r ffocws a da iawn i’r bois.
“Sgorion ni gôl dda, doedd dim llawer o gyfleoedd yn y gêm.
“Mae’n anodd, mae’r caeau’n anodd, mae’r amodau’n anodd, mae’r gemau’n dod yn gyflym, felly mae’n cymryd cryn dipyn i ennill gemau.”