Derwyddon Cefn 1-3 Y Bala

Mae’r Derwyddon yn aros ar waelod y tabl ar ôl colli gartref yn erbyn y Bala ar y Graig. Er i’r tîm cartref fynd ar y blaen yn gynnar, fe darodd yr ymwelwyr yn ôl i ennill o dair i un.

Chwe munud yn unig a oedd ar y cloc pan aeth y Derwyddon ar y blaen, Stef Edwards yn sgorio yn erbyn ei gyn glwb wedi symudiad slic.

Help llaw

Roedd angen llaw ar y Bala i unioni’r sgôr; Oliver Shannon yn rhwydo wedi i foli wreiddiol Chris Venables gael ei harbed, ond hynny ar ôl iddo reoli’r bêl â’i law, a hynny’n eithaf amlwg!

Patrwm digon tebyg a oedd i gôl fuddugol y Bala yn gynnar yn yr ail gyfnod, er nad oedd dim byd dadleuol am hon. Cafodd ergyd arall gan Venables ei harbed gan Michael Jones ond roedd Shannon wrth law i fwyta’r briwsion.

Mater o amser a oedd hi cyn i Venables sgorio ei hun ac fe ddaeth honno o’r smotyn ugain munud o’r diwedd, prif sgoriwr y gynghrair yn rhwydo ei unfed a’r bymtheg o’r tymor.

Gorffennodd y Bala’r gêm gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch Steve Leslie ond roedd y tri phwynt yn ddiogel erbyn hynny.

 

*

 

Penybont 0-0 Cei Connah

Collodd Cei Connah gyfle i ymestyn eu mantais ar frig y tabl gyda gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Penybont yn Stadiwm SDM Glass.

Yr ymwelwyr a gafodd y gorau o’r gêm ar brynhawn gwyntog ond bu’n rhaid i’r ddau dîm fodloni ar bwynt yr un yn y diwedd.

Mae’r Nomadiaid yn aros ar frig y tabl, dri phwynt yn glir o’r Seintiau yn yr ail safle.

O’i gymharu â’i safonau arferol, ni wnaeth Andy Morrison gwyno gormod ar ôl y gêm ond roedd yr un hen bregeth am ei restr anafiadau i’w chlywed o hyd!

 

*

 

Y Barri 1-0 Aberystwyth

Roedd un gôl yn ddigon wrth i’r Barri guro Aberystwyth ar Barc Jenner.

Fe wnaeth Aber elwa o gôl hwyr wrth drechu Hwlffordd ganol wythnos ond roedd yr esgid ar y droed arall ym Mro Morgannwg wrth i gôl hwyr Nat Jarvis gipio’r tri phwynt i’r tîm cartref.

Tri munud o’r naw deg a oedd yn weddill pan rwydodd Jarvis ac roedd hi’n gôl fach ddigon taclus; pêl hir letraws gan Robbie Patten, Mikey George yn sgwario’r bêl ar draws y cwrt chwech a Jarvis yn rhwydo.

Nid yw’r canlyniad yn newid llawer yn y tabl wrth i’r Barri aros yn bedwerydd ac Aber yn ddegfed.

 

 *

 

Y Drenewydd 4-1 Met Caerdydd

Mae rhediad da’r Drenewydd ers yr ail ddechrau yn parhau wedi iddynt drechu Met Caerdydd o bedair gôl i un ar Barc Latham.

Mae’r Robiniaid wedi ennill tair allan o bedair gêm i godi’n glir o safleoedd y gwymp.

Tyrone yn tanio

Rhan fawr o lwyddiant diweddar y Drenewydd yw goliau Tyrone Ofori. Mae’r blaenwr bellach wedi sgorio pedair mewn pedair ar ôl rhwydo ddwywaith yn y gêm hon.

Daeth y gyntaf ar ddiwedd gwrthymosodiad gwych wedi dim ond chwe munud ac roedd yr ail yn fynydd o beniad o groesiad Lifumpa Mwandwe.

Daeth y ddwy gôl o boptu i un gan Bradley Woolridge i Met ac roedd hi’n gêm agos wrth droi.

Jordan ar dân

Un arall sydd ar rediad sgorio arbennig yw Jordan Evans. Fe rwydodd cyn chwaraewr Wrecsam ddwy yn erbyn un arall o’i gyn glybiau, Derwyddon Cefn, ganol wythnos. Ac ef a sgoriodd y goliau a sicrhaodd y fuddugoliaeth i’r Drenewydd yn ail hanner y gêm hon, y gyntaf yn berl o gic rydd toc cyn yr awr.

Mae’r fuddugoliaeth yn rhoi tîm Chris Hughes yn wythfed yn y tabl, chwe phwynt yn unig o’r hanner uchaf er gwaethaf dechrau gwael i’r tymor.

 

*

 

Y Fflint 0-2 Caernarfon

Sgoriodd Caernarfon ddwy gôl mewn tri munud wrth guro’r Fflint ar Gae y Castell.

Mae trafferthion y Fflint tua gwaelod y tabl yn parhau wedi iddynt golli tair allan o dair ers yr ail ddechrau.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, fe rwydodd y Cofis ddwy gôl gyflym toc wedi’r awr. Peniodd Paulo Mendes y gyntaf o gic gornel cyn i Sion Bradley gamu trwy ganol amddiffyn Fflint yn rhy rhwydd o lawer i sgorio’r ail.

 

 *

 

Hwlffordd 2-1 Y Seintiau Newydd

Roedd buddugoliaeth gofiadwy i Hwlffordd wrth iddynt groesawu’r Seintiau Newydd i Ddôl y Bont yng ngêm fyw Sgorio.

Sgoriodd Cameron Keetch y gôl fuddugol ddeunaw munud o’r diwedd wrth i gyn seren Cymru, Jazz Richards, brofi buddugoliaeth yn ei gêm gartref gyntaf gyda’r tîm o Sir Benfro.

Taith Scott yn dod i ben

Y newyddion mawr o Neuadd y Parc yr wythnos hon oedd diswyddiad Scott Ruscoe a Steve Evans; y rheolwr a’i gynorthwyydd yn colli eu swyddi gyda’r Seintiau ar frig y tabl!

Chris Seargeant a fydd wrth y llyw yn y tymor byr ond mae’r dyfalu eisoes wedi dechrau ynglŷn â phwy fydd yn cael y swydd yn barhaol. Mae enwau’r cyn reolwyr, Ken McKenna a Craig Harrison, wedi cael eu crybwyll yn ogystal â chyn chwaraewr Cymru a chyn reolwr Wrecsam a’r Amwythig, Sam Ricketts.

Neu beth am daflu enw i’r pair i gorddi’r dyfroedd, Andy Morrison?

Dim datrysiad gan Seargeant

Ni wnaeth y newid rheolwr unrhyw les i’r Seintiau yn y gêm hon wrth i Hwlffordd gael y gorau o’r hanner cyntaf.

Rhoddodd Corey Sheppard y tîm cartref ar y blaen gydag ergyd isel dda wedi deunaw munud a methodd Danny Williams gyfle euraidd i ddyblu’r fantais gyda foli bostyn pellaf.

Yn y pen arall roedd angen arbediad gwych gan Matthew Turner i atal peniad cornel uchaf Louis Robles.

Roedd y Seintiau yn well yn yr ail hanner ac yn gyfartal wedi dim ond pum munud diolch i beniad Blaine Hudson o gic gornel Adrian Cieslewicz.

Ond yn ôl y daeth Hwlffordd gyda gôl yn erbyn llif y chwarae, Keetch yn gorffen yn daclus wedi gwaith da Williams.

Roedd angen tacl wych gan seren y gêm, Ricky Watts, i atal gôl sicr gan Robles wedi hynny, cystal â gôl bob tamaid wrth i Hwlffordd ddal eu gafael.

Mae’r canlyniad yn codi’r Adar Gleision i’r hanner uchaf ac yn gadael y Seintiau yn ail yn y tabl.

 

Gwilym Dwyfor