Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Murray Walker, y sylwebydd rasio ceir, sydd wedi marw’n 97 oed.

Fe fu’n sylwebu ar y gamp am fwy na hanner canrif, ac mae’n cael ei ystyried yn un o’r sylwebyddion chwaraeon gorau erioed.

Mae’n adnabyddus am ei lais unigryw oedd yn cyfleu cyffro a chyflymdra’r ceir ar y trac.

Daeth ei sylwebaeth gyntaf i’r BBC yn 1949 ac ymhlith yr eiliadau mawr yn hanes y gamp y bu’n sylwebu arnyn nhw roedd y brwydrau cyson rhwng Ayrton Senna ac Alain Prost, yn ogystal â theitl y byd i Nigel Mansell yn 1992 a Damon Hill yn 1996.

Dywedodd Syr Jackie Stewart na fydd “Murray Walker arall” fyth.

“Mae’n un o’r bobol hynny a fydd yn cael ei gofio am byth ac ychydig iawn o sylwebyddion allai ddisgwyl i hynny ddigwydd drwy gydol eu bywydau,” meddai.

“Roedd e’n ŵr bonheddig yn y gamp, roedd ei afael ar yr iaith Saesneg yn enfawr, felly hefyd ei gyffro a’i egni.

“Mae’n golled enfawr.

“Siaradais i â fe ddim yn hir iawn yn ôl, roedd e mewn cartref gofal ac fe gawson ni sgwrs dda.”

Cyd-sylwebyddion

Bydd Murray Walker hefyd yn cael ei gofio am ei bartneriaeth yn y blwch sylwebu â James Hunt am 13 o flynyddoedd hyd at 1993.

Roedd y cyfuniad o’r Walker egnïol a’r Hunt hamddenol yn boblogaidd ymhlith gwylwyr.

Symudodd rasio ceir Formula 1 i ITV yn 1997 ar ôl i’r sylwebydd dderbyn OBE am ei wasanaeth i ddarlledu a rasio ceir, ac fe aeth yn ei flaen i gyd-sylwebu â Martin Brundle am bum tymor cyn ymddeol yn 2001.

“Dyn rhyfeddol ym mhob ffordd,” meddai. “Trysor cenedlaethol, athrylith wrth gyfathrebu, un o fawrion Formula One.”

Dywedodd Damon Hill fod ei “waddol a’r atgofion amdano fe mor gryf”.

“Fe wnaeth e ddal fy holl rasio yn ei eiriau hyfryd, ei sylwebaeth a’i frwdfrydedd,” meddai.

“Fe allai greu emosiwn y digwyddiadau yn ein camp.

“Mae gan yr eiliadau o sioc a’r rhai dramatig ymateb Murray iddyn nhw ac fe wnaeth i’r digwyddiadau hynny aros yn eich cof am byth.

“Wnaeth e ddim gadael iddo fe ei hun fod y sylwebydd oedd yn gwybod popeth, ond y cefnogwr oedd weithiau’n gor-gyffroi.”

Dywed Tim Davie, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC fod “neb wedi cyfleu cyffroi ac angerdd rasio ceir fel y gwnaeth Murray Walker”.

“I’r miliynau, yn syml iawn, fe oedd y llais wnaeth ddal ysbryd Formula One. Wedi’i barchu gan yrwyr a chefnogwyr fel ei gilydd, fe fydd colled enfawr ar ei ôl.”

Dywedodd cyd-sylwebydd arall, James Allen, eu bod nhw “wedi byw profiadau gwych gyda’n gilydd ar y ffordd”, gan ddweud mai Murray Walker oedd ei fentor.

Teyrngedau’r timau a’r awdurdodau

Dywedodd tîm Mercedes mai fe oedd “llais F1 i’r miliynau” a bod ei “gariad, angerdd a phositifrwydd yn ddi-hafal”.

Dywedodd McLaren ei fod e “wedi rhannu ei angerdd a’i wybodaeth â hiwmor a gostyngeiddrwydd”.