Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r paffiwr Marvin Hagler, sydd wedi marw’n 66 oed.

Mae’n gyn-bencampwr pwysau canol y byd, ac roedd e ar ei anterth ar ddiwedd y 1970au a dechrau’r 1980au cyn colli ei deitl i Sugar Ray Leonard yn 1987.

Yn baffiwr llaw chwith o New Jersey, dim ond unwaith cafodd ei drechu ar lawr yn ystod ei yrfa broffesiynol, ac fe wnaeth e amddiffyn ei deitl byd 12 o weithiau.

Fis Medi 1980, fe wnaeth e guro Alan Minter yn y drydedd rownd yn Wembley i ennill teitl byd am y tro cyntaf.

Yn 1985, fe wnaeth e guro Thomas ‘Hitman’ Hearns mewn tair rownd yn Las Vegas, ac fe ddaeth yr ornest honno’n enwog fel ‘The War’.

Fe gollodd e ornest yn erbyn Sugar Ray Leonard yn 1987, ar ôl i’w wrthwynebydd ddychwelyd o’i ymddeoliad ddwywaith, ac fe ddaeth yr ornest hon ar ôl seibiant o dair blynedd i Leonard, oedd wedi ennill yr ornest ar sail anghytundeb rhwng y beirniaid.

Fe wnaeth Leonard ymddeol am y tro olaf wedi’r ornest, ac fe gollodd Marvin Hagler y cyfle i ymladd yn ei erbyn e eto.

Daeth gyrfa Hagler i ben yn 1988, ar ôl cipio 62 buddugoliaeth, dwy ornest gyfartal a cholli tair.

Teyrngedau

Dywedodd Brry McGuigan ei fod e wedi cael “sioc” a’i fod yn “drist iawn” o glywed am farwolaeth Marvin Hagler, sydd wedi marw yn ei gartref yn New Hampshire.

Yn ôl Oscar De La Hoya, pencampwr y bydd 11 o weithiau, roedd e’n “un o’r goreuon erioed i gamu i’r sgwâr”.

Dywedodd y sylwebydd Al Bernstein mai “anrhydedd” oedd cael ei adnabod, wrth i’r hyrwyddwr Frank Warren ddweud bod y byd paffio “wedi colli un o’r goreuon heddiw”.