Bydd tîm rygbi Cymru’n cadw at y cynllun sy’n gyfarwydd iddyn nhw wrth iddyn nhw fynd am y Gamp Lawn yng ngêm olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Ffrainc yn Paris yr wythnos nesaf.

Maen nhw eisoes wedi ennill y Goron Driphlyg, ond maen nhw hefyd yn mynd am y dlws Chwe Gwlad am y chweched tro a’u pumed Camp Lawn.

Maen nhw eisoes wedi ennill y Gamp Lawn fwy o weithiau nag unrhyw wlad arall, ond dyma fyddai’r gyntaf o dan y prif hyfforddwr Wayne Pivac, oedd wedi cael blwyddyn ddigon siomedig wrth y llyw cyn y gystadleuaeth hon.

Wnaethon nhw efelychu eu buddugoliaeth fwyaf erioed wrth guro’r Eidal o 48-7 yn Rhufain a’u record am y nifer fwyaf o geisiau (17) mewn un twrnament (2005 a 2016).

Byddan nhw’n teithio i Ffrainc yn llawn hyder, ar ôl ennill tair allan o’u pedair gêm ddiwethaf yn y Chwe Gwlad yn Paris.

Mae George North yn mynd yno yn gwybod y byddai un cais arall yn curo record Chwe Gwlad Shane Williams o 22 dros Gymru.

‘Dim newid’

“Dw i ddim yn meddwl bod angen i ddim byd newid,” meddai George North.

“Dw i’n meddwl bod ein paratoadau o bersbectif y garfan a’r hyfforddi, a’r pecyn cyfan, wedi bod yn wych.

“Mae digon ohonon ni wedi bod ynghlwm hefo wythnosau’r Gamp Lawn a gemau prawf mawr, ac os ydach chi’n dechrau ei newid o rŵan, rydach chi mewn panig.

“I ni, dw i’n meddwl y gwnawn ni gadw at yr hyn rydan ni’n ei wybod, rydan ni’n ymarfer efo’n dwyster ni a rhaid i ni fod yn bositif dros ben yr wythnos hon.

“Rydan ni yn y pen eithaf rŵan, dyma mae’r holl waith yn dod i lawr iddo fo, a dyma pam ein bod ni’n chwarae’r gêm hon.”