Daeth cadarnhad yr wythnos hon mai Robert Page fydd yng ngofal Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Gwlad Belg, Mecsico a’r Weriniaeth Siec ar ddiwedd y mis.

Bydd y garfan ar gyfer y gemau hynny’n cael ei henwi yfory a bydd hi’n ddiddorol gweld faint o newidiadau a welwn o’r garfan ddiwethaf ym mis Tachwedd. Bydd Joe Allen yn dychwelyd heb os ac mae Adam Davies yn ôl yn ffit hefyd felly bydd Owain Fôn Williams neu Tom King yn debyg o golli eu lle.

Bydd rhaid aros i weld a fydd Aaron Ramsey yn dychwelyd wedi i anaf arall ei gadw allan o gêm Juventus heddiw.

Mae amheuaeth hefyd am Tom Lockyer, David Brooks a Tom Lawrence oherwydd anafiadau ac nid yw Neco Williams, Jonny Williams, Joe Morrell, Dylan Levitt na Rabbi Matondo wedi chwarae llawer yn ddiweddar.

Yr un amlwg sydd yn haeddu adennill ei le yn y garfan ar sail perfformiadau diweddar yw Will Vaulks. A tybed a all absenoldeb Lockyer agor cil y drws i James Chester? Nid yw’r amddiffynnwr wedi chwarae i Gymru ers 2018 ond mae wedi chwarae mwy o gemau clwb eisoes y tymor hwn na’r ddau dymor diwethaf gyda’i gilydd.

Os oes gwagle i un ymosodwr mae’n debyg mai dewis rhwng profiad Hal Robson-Kanu neu botensial amrwd Luke Jephcott fydd hi, y naill wedi bod yn cynhesu mainc un o dimau gwaethaf yr Uwch Gynghrair trwy’r tymor a’r llall wedi bod sgorio llond trol o goliau yn yr Adran Gyntaf, tan yn ddiweddar o leiaf. Mae Mark Harris o Gaerdydd yn opsiwn hefyd ond nid yw ef wedi chwarae cymaint i Mick McCarthy ag y gwnaeth o dan Neil Harris.

Gemau’r penwythnos hwn a oedd cyfle olaf y chwaraewyr hyn ac eraill i adael eu marc, felly sut hwyl a gafodd y Cymry?

*

Uwch Gynghrair Lloegr

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Neil Taylor wrth i Aston Villa gael gêm gyfartal yn erbyn Newcastle nos Wener a chafodd Hal Robson-Kanu gwta hanner awr wrth i West Brom golli yn erbyn Crystal Palace ddydd Sadwrn.

Un chwaraewr fydd yn sicr yng ngharfan Cymru yn dilyn rhediad diweddar yn nhîm Leeds yw Tyler Roberts. Dechreuodd am y pumed gêm yn olynol yn erbyn Chelsea ddydd Sadwrn. Gorffen yn ddi sgôr a wnaeth hi ond roedd angen arbediad arbennig gan Edouard Mendy i atal Roberts rhag ei hennill hi gydag ergyd wych.

Tyler Roberts

Teg dweud iddi fod yn wythnos anodd i Ethan Ampadu. I ddechrau, fe adawodd ei reolwr, Chris Wilder, ei swydd fel rheolwr Sheffield United. Yna, roedd y Cymro yn rhan o amddiffyn a ildiodd bum gôl mewn cweir gan Gaerlŷr ddydd Sul. Ac i wneud pethau’n waeth, Ampadu a sgoriodd y bumed, i’w rwyd ei hun. Ar y fainc yr oedd Danny Ward i Gaerlŷr.

Yn ddiweddarach ddydd Sul, fe ddechreuodd Gareth Bale i Tottenham yng ngêm ddarbi gogledd Llundain yn erbyn Arsenal. Pas letraws y Cymro a arweiniodd, yn y diwedd, at gôl agoriadol wych Erik Lamela.

Cafodd Bale ei eilyddio toc cyn yr awr serch hynny, gyda’r sgôr yn gyfartal, gôl yr un. Newidiodd hynny’n fuan wedyn wrth i Spurs ildio a cholli’r gêm o ddwy i un. Fe chwaraeodd Ben Davies i Spurs yn erbyn Dinamo Zagreb yng Nghynghrair Europa ganol wythnos ond ar y fainc yr oedd y cefnwr chwith yn erbyn y Gunners.

Fe chwaraeodd Daniel James yng Nghynghrair Europa nos Iau hefyd wrth i Man U gael gêm gyfartal yn erbyn AC Milan a chadwodd ei le yn yr un ar ddeg i herio West Ham yn y gynghrair yn y gêm hwyr nos Sul

*

Y Bencampwriaeth

Collodd Caerdydd am y tro cyntaf ers i Mick McCarthy gymryd yr awenau wrth groesawu Watford i Stadiwm y Ddinas. Dechreuodd Will Vaulks, Harry Wilson a Kieffer Moore i’r Adar Gleision.

Roedd canlyniad gwell i Abertawe, a gafodd fuddugoliaeth o gôl i ddim yn Luton. Chwaraeodd Connor Roberts y gêm gyfan i’r Elyrch ond ar y fainc yr oedd Ben Cabango ac felly heyfd Joe Morrell i’r gwrthwynebwyr.

Ar wahân i Roberts, yr unig Gymro i ddechrau gêm i dîm buddugol yn y Bencampwriaeth y penwythnos hwn oedd Joe Jacobson. Y cefnwr a greodd unig gôl y gêm wrth i Wycombe drechu Preston. Roedd Andrew Hughes a Ched Evans yn nhîm Preston.

Fe brofodd Tom Bradshaw fuddugoliaeth gyda Millwall yn Derby hefyd er mai dim ond chwarter awr oddi ar y fainc a gafodd y blaenwr.

Roedd hi’n brynhawn i’w anghofio i Gymry Stoke ddydd Sadwrn wrth iddynt golli’n drwm yn Middlesbrough. Dechreuodd James Chester, Rhys Norrington-Davies a Joe Allen, a daeth Sam Vokes a Rabbi Matondo oddi ar y fainc wrth i’r Potters golli o dair i ddim.

Cafodd George Thomas ddau funud oddi ar y fainc wrth i QPR golli yn erbyn Huddersfield ac eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Chris Mepham  wrth i Bournemouth golli yn erbyn Barnsley.

*

Cynghreiriau is

Collodd Lincoln gyfle i godi i ddau uchaf yr Adran Gyntaf wrth golli’n annisgwyl gartref yn erbyn Rochdale. Chwaraeodd Regan Poole a Brennan Johnson.

Mae Doncaster yn aros yn y safleoedd ail gyfle yn dilyn gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Northampton. Dechreuodd Joe Wright a Matthew Smith i Donny.

Yn ymuno â hwy yn y saith uchaf y mae Ipswich ar ôl iddynt drechu Plymouth o gôl i ddim. Yn dilyn ei gôl yn erbyn Lincoln ganol wythnos, fe ddechreuodd James Wilson yng nghanol yr amddiffyn unwaith eto. Chwaraeodd Gwion Edwards i Ipswich hefyd a daeth Luke Jephcott oddi ar y fainc i Plymouth.

Roedd hi’n gêm ddarbi ar arfordir Fylde wrth i Blackpool ymweld â Fleetwood ond gêm ddi sgôr ddigon diflas a oedd hi. Llechen lân yr un felly i Chris Maxwell yn y gôl i Blackpool a Wes Burns fel cefnwr i Fleetwood.

Gêm gyfartal gôl yr un a gafodd Charlton wrth iddynt groesawu’r Amwythig i’r Valley. Chwaraeodd Chris Gunter y gêm gyfan a tybed a fydd canfed cap i’r arwr cenedlaethol dros yr wythnosau nesaf? Mae’n anodd gweld neb ond Connor Roberts yn dechrau’r gemau cystadleuol yn safle cefnwr dde ond cyn belled ag y bydd Gunts yn y garfan, mae’n siŵr o gael munudau yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsico.

Cryfhaodd Casnewydd eu statws yn safleoedd ail gyfle’r Ail Adran gyda buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Morecambe. Josh Sheehan a sgoriodd ail o dair gôl yr Alltudion ac fe chwaraeodd Liam Sheppard ac Aaron Lewis fel ôl-asgellwyr hefyd.

Mae Bolton yn parhau ar gynffon Casnewydd yn y saith uchaf wedi i gôl brin iawn gan y bachgen o Borth-y-Gest, Gethin Jones, ennill y gêm iddynt yn Port Vale. Chwaraeodd Declan John, Jordan Williams a Lloyd Isgrove hefyd.

*

Yr Alban a thu hwnt

Mae Christian Doidge yn parhau i ddechrau’n rheolaidd i Hibernian yn Uwch Gynghrair yr Alban ond mae’r goliau a oedd yn llifo’r tymor diwethaf wedi arafu i’r Cymro’r tymor hwn ac nid oes cymaint o sôn amdano fel opsiwn i’r tîm rhyngwladol erbyn hyn. Chwaraeodd wrth i’w dîm drechu Ross County ddydd Sadwrn.

Ym Mhencampwriaeth yr Alban, cododd Dunfermline i’r ail safle gyda buddugoliaeth o gôl i ddim i yn erbyn Greenock Morton diolch i lechen lân Owain Fôn Williams. A phen-blwydd hapus Owain ar gyfer dydd Mercher gyda llaw! Ef oedd gwestai pen-blwydd Dewi Llwyd yr wythnos hon.

Cafodd Dylan Levitt ei ymddangosiad cyntaf i NK Istra ym mhrif adran Croatia ddydd Sadwrn. Daeth y Cymro oddi ar y fainc am y deg munud olaf wrth i’r tîm ennill o gôl i ddim yn erbyn Lokomotiva. Hon oedd ail fuddugoliaeth Istra yn erbyn yr un gwrthwynebwyr mewn ychydig ddyddiau ac maent wedi codi oddi ar waelod y tabl o ganlyniad.

Ym mhen arall y tabl, dydd Sul yr oedd tîm Robbie Burton, Dinamo Zagreb, yn chwarae a daeth y Cymro oddi ar y fainc i chwarae’r ail hanner wrth i’w dîm chwalu Varazdin o bum gôl i ddim i aros ar y brig.

Mae tabl y Slovak Super Liga newydd hollti ac ennill a fu hanes Dunajska Streda yng ngêm gyntaf yr hanner uchaf. Chwaraeodd Isaac Christie-Davies y gêm gyfan wrth iddynt drechu Zlate Moravce i aros yn ail yn y tabl.

Chwaraeodd Aaron Ramsey 75 munud o golled Juventus yn erbyn Porto yng Nghynghrair y Pencampwyr ganol wythnos ond roedd y Cymro allan o garfan yr Hen Wreigan ar gyfer eu gêm Serie A yn erbyn Calgiari ddydd Sul. Nid oes manylion am yr anaf wedi eu rhyddhau ond mae teimlad o dèjá vu am yr holl beth wedi iddo orfod tynnu allan o sawl carfan ryngwladol ers ymuno â’r Eidalwyr.