Mae Undeb Rygbi Cymru wedi croesawu’r newyddion y gall rygbi i blant a phobol ifanc dan 18 oed ailddechrau o ddydd Sadwrn (Mawrth 27), cyn belled bod lefelau Covid yn parhau i ostwng.

Ar ôl gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill o fewn y Grŵp Chwaraeon Cenedlaethol, mae Undeb Rygbi Cymru eisoes wedi cynnal cyfarfod ar-lein gyda dros 300 o glybiau i ddechrau rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer dychwelyd rygbi cymunedol yn raddol.

Gall gwirfoddolwyr, chwaraewyr a rhieni nawr gynllunio i ddychwelyd i sesiynau hyfforddi o Fawrth 27, os yw clybiau’n teimlo y gallant ddarparu amgylchedd diogel.

Bydd y flaenoriaeth ar sgiliau a gweithgareddau sy’n seiliedig ar ffitrwydd gyda rygbi tag a chyffyrddiad yn cael ei gyflwyno tua diwedd y sesiynau.

Bydd yr union fanylion am faint y grwpiau y caniateir iddynt hyfforddi yn ystod y cyfnod hwn yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a fydd yn cael eu hegluro maes o law.

Fodd bynnag, lle bynnag y bo modd, anogir timau i hyfforddi mewn grwpiau bach am resymau diogelwch, yn enwedig ar gyfer elfen tag a chyffyrddiad y sesiynau.

“Awydd cryf i ddychwelyd i rygbi cymunedol”

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru, Geraint John: “Rydym yn croesawu’r penderfyniad hwn gan Lywodraeth Cymru.

“Gwyddom fod awydd cryf i ddychwelyd i rygbi cymunedol, yn enwedig ar gyfer iechyd a lles corfforol a meddyliol ein chwaraewyr iau.

“Rydyn ni eisiau i bawb ddod yn ôl i’r gêm yn ddiogel ac ar gyfer y tymor hir.

“Mae hynny’n golygu gofyn i hyfforddwyr, chwaraewyr a’u rhieni gadw at y mesurau cynaliadwy y mae gwirfoddolwyr y clwb wedi gweithio mor galed i’w cyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf i sicrhau bod amgylcheddau’r clwb mor ddiogel â phosibl.”