Mae rheolwr dros dro Cymru, Robert Page, wedi cyhoeddi’r garfan ar gyfer y tair gêm ryngwladol nesaf.

Bydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch gymhwyso Cwpan y Byd 2022 yr wythnos nesaf yng Ngwlad Belg ar Fawrth 24 cyn herio’r Weriniaeth Tsiec yng Nghaerdydd ar Fawrth 30.

Rhng y ddwy gêm honno, bydd Cymru hefyd yn herio Mecsico gartref mewn gêm gyfeillgar ar Fawrth 27.

Aaron Ramsey yn y garfan er ei fod wedi’i anafu

Mae Aaron Ramsey wedi cael ei enwi yn y garfan, er iddo golli buddugoliaeth 3-1 Juventus yn Cagliari ddydd Sul (Mawrth 14) gydag adroddiadau yn yr Eidal yn awgrymu y bydd allan am dair wythnos.

Dim ond tair o 20 gêm olaf Cymru y mae Ramsey wedi’u dechrau, gydag ef yn tynnu allan o gemau rhyngwladol yn dipyn o thema dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae Page yn dweud eu bod am wneud eu hasesiad eu hunain o’r chwaraewr 30 oed.

“Rydym yn dal i ymchwilio i hynny,” meddai. “Hoffem ei gael ar wersyll i gadw llygaid arno a’i asesu ein hunain.

“Mae e yn y garfan ar hyn o bryd oni bai bod pethau’n datblygu dros nos ac yn mynd yn llawer gwaeth na’r hyn rydyn ni’n ei feddwl a’i fod allan am 10 diwrnod, y tair gêm.

“Os yw pethau’n newid fel hynny, mae allan o’n rheolaeth.”

Dywedodd Page nad oes “neb yn fwy rhwystredig nag Aaron Ramsey gyda’r anafiadau mae’n eu cael”

“Mae’n rhwystredig iddo,” meddai Page, “bydd yn isel … a dyna’n rhannol pam rydym eisiau ei gael yn y gwersyll gyda’r bois.”

Joe Allen yn ôl

Mae Joe Allen, chwaraewr canol cae Stoke, wedi’i gynnwys yn y garfan am y tro cyntaf ers torri tendon Achilles fis Mawrth diwethaf, ac mae’r gôl-geidwaid Wayne Hennessey ac Adam Davies ill dau yn dychwelyd ar ôl colli gwersyll mis Tachwedd drwy anaf.

Nid yw Hennessey, sydd wedi’i gapio 94 gwaith, wedi chwarae ers dioddef anaf yn ystod buddugoliaeth Cynghrair y Cenhedloedd Cymru yn erbyn Bwlgaria ym mis Hydref.

Mae Hal Robson-Kanu, ymosodwr West Brom, hefyd yn dychwelyd i’r garfan ar ôl anaf, ond mae David Brooks yn methu allan oherwydd anaf i’w ffêr.

Giggs yn rhan o’r dethol

Er ei absenoldeb fel rheolwr, cadarnhaodd Page fod Giggs yn rhan o’r broses o ddethol y garfan 31 dyn.

Cafodd Giggs ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ei gariad Kate Greville ddechrau mis Tachwedd.

Bu iddo fethu gemau Cynghrair y Cenhedloedd Cymru yn ddiweddarach y mis hwnnw.

Y diweddaraf yw bod ffeil ei achos yn parhau i fod gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron, a bod disgwyl penderfyniad maes o law.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru’r wythnos diwethaf na fyddai Giggs yn rhan o’r gwersyll rhyngwladol sydd i ddod.

Pan ofynnwyd a oedd Giggs wedi chwarae rhan yn y broses ddethol ac a fyddai’n parhau i wneud hynny, dywedodd Page: “Wrth gwrs. Fel y mae’n gwneud ar gyfer pob gwersyll arall.

“Mae’r un peth â mis Tachwedd. Busnes fel yr arfer.

“Mae gennym dair gêm bwysig i’w chwarae, mae’n wersyll mawr i ni ac yn un rydyn ni’n edrych ymlaen ato.”

Twrnament Ewro 2020

Bydd Cymru yn herio’r Swistir yng ngêm agoriadol twrnament Ewro 2020 ymhen 89 diwrnod a dyw hi dal ddim yn glir pwy fydd yn arwain y garfan.

Ond mae Page yn dweud ei fod yn canolbwyntio ar y tair gêm sy’n dod i fyny.

“Mae angen cynnal y sgyrsiau hynny ymhellach i lawr y ffordd,” meddai Page.

“Rwy’n canolbwyntio’n benodol ar y tair gêm hyn a byddai’n well gen i beidio â meddwl am y tymor hir eto.

“Gadewch i ni gael y gemau hyn allan o’r ffordd ac ar ôl hynny byddwn yn asesu’r sefyllfa eto mae’n siŵr, a bydd pwy bynnag sy’n gwneud y penderfyniadau hynny yn gwneud y penderfyniadau hynny.

“Mae’n anodd i Ryan ond mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr fod y ffocws ar y chwaraewyr.

“Mae’n rhaid i ni barhau i ganolbwyntio ar y gemau sydd o dan sylw.”

Y garfan

W Hennessey (Crystal Palace), D Ward (Caerlŷr), A Davies (Stoke), T King (Casnewydd), C Gunter (Charlton), B Davies (Tottenham), C Roberts (Abertawe), E Ampadu (Sheff Utd, ar fenthyg gan Chelsea), C Mepham (Bournemouth), T Lockyer (Luton), J Rodon (Tottenham), J Lawrence (St Pauli), N Williams (Lerpwl), R Norrington-Davies (Stoke, ar fenthyg gan Sheff Utd), B Cabango (Abertawe), A Ramsey (Juventus) , J Allen (Stoke), J Williams (Caerdydd), H Wilson (Caerdydd, ar fenthyg o Lerpwl), D James (Man Utd), M Smith (Doncaster, ar fenthyg gan Man City), J Morrell (Luton), D Levitt (NK Istra, ar fenthyg gan Man Utd), B Johnson (Lincoln, ar fenthyg o Nottingham Forest), J Sheehan (Casnewydd), G Bale (Tottenham, ar fenthyg gan Real Madrid), H Robson-Kanu (West Brom), T Lawrence (Derby), K Moore (Caerdydd), T Roberts (Leeds), R Matondo (Stoke, ar fenthyg o Schalke 04).