Mae cyn-chwaraewr a chyn-reolwr Cymru, Mark Hughes, wedi bod yn trafod iechyd meddwl, gan gydnabod y gall pêl-droed adael chwaraewyr a rheolwyr yn agored i ddioddef problemau ac ystyried hunanladdiad.
Mae cyn-ymosodwr Manchester Utd o’r farn fod addysg yn hanfodol i helpu i achub bywydau.
Mae Hughes yn rhan o ymdrechion undeb llafur rheolwyr pêl-droed Lloegr, Cymdeithas Rheolwyr Cynghrair Lloegr (yr LMA), i godi ymwybyddiaeth o raglen hyfforddi a gynlluniwyd i helpu pobl i nodi’r arwyddion y gallai rhywun sy’n agos atynt fod yn teimlo’n isel.
Mae’r ôl-ofal sydd ar gael i bêl-droedwyr ifanc pan gânt eu rhyddhau o academïau’r clybiau mawr wedi cael sylw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Wrth roi ei gefnogaeth i gwrs ar-lein 20-munud i hyrwyddo’r mater ymhlith aelodau’r LMA, dywedodd Hughes: “Mae’n anodd mewn clybiau pêl-droed, mae yna lawer o emosiynau a siomedigaethau – mwy o siomedigaethau na llwyddiannau os yden ni’n onest.
“Mae’n rhaid i ni annog pawb i fod yn fwy agored”
“Ac mae gallu adnabod pan fydd rhywun yn cael trafferth gyda’r siomedigaethau hynny … efallai eu bod yn colli eu swydd ac yn dangos arwyddion eu bod yn cael trafferth ymdopi â phenderfyniadau a fydd yn effeithio arnynt … gallai hynny helpu’r dynion sy’n gwneud y penderfyniadau hefyd.
“Rwy’n credu bod agwedd o fewn pêl-droed [pan oedd Hughes yn chwarae] … pe baech yn dangos gwendid, byddai rhywun yn dweud ‘Caria ’mlaen, ty’d at dy goed… bydda’n gryfach yn feddyliol’.
“Yn amlwg nawr rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n anodd iawn cynnal eich iechyd meddwl… weithiau mae’n newidiol ac mae angen help arnoch.
“I mi fel chwaraewr ifanc, des i o dref fach yng ngogledd Cymru [Rhiwabon]… ac rwy’n gwybod fel ffaith y byddai wedi bod yn anodd iawn i mi ddal fy llaw i fyny a gofyn am yr help yr oedd ei angen arnaf bryd hynny.
“Roedd yna adegau pan oeddwn i’n bryderus am fy nyfodol, lle’r oedd fy ngyrfa yn mynd, pan oeddwn i’n cael trafferth a ddim yn chwarae’n dda. Ni ddaeth i’r pwynt lle’r oeddwn yn teimlo mewn perygl, ond nid oedd y gefnogaeth yno.
“Mae’n bendant wedi gwella, ond gallwch bob amser ychwanegu at hynny.”
“Weithiau rydych chi’n ceisio gwneud y penderfyniadau cywir a chaniatáu i bobl ffynnu, ac weithiau does neb yno i’ch helpu, a gall hynny fod yn broblem go iawn.
“Mae’n bwysig gallu agor i fyny. Nid yw’n hawdd i bawb, mae pobl yn mewnoli pethau ac mae dynion yn fwy euog o hynny na neb, rydym yn cadw pethau i ni’n hunain ac nid ydym am siarad am adegau neu faterion yr ydym yn cael trafferth gyda hwy a gall hynny fod yn niweidiol i’ch iechyd.
“Mae’n rhaid i ni annog pawb i fod yn fwy agored.”