Mae Cymru’n cynllunio trafodaethau gyda Juventus ynghylch cael Aaron Ramsey ar gyfer gemau cymhwyso Cwpan y Byd.

Bydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch gymhwyso Cwpan y Byd 2022 yr wythnos nesaf yng Ngwlad Belg ar Fawrth 24 cyn herio’r Weriniaeth Tsiec yng Nghaerdydd ar Fawrth 30.

Rhwng y ddwy gêm hynny, bydd Cymru hefyd yn herio Mecsico gartref mewn gêm gyfeillgar ar Fawrth 27.

Mae Aaron Ramsey wedi cael ei enwi yn y garfan, er iddo golli buddugoliaeth 3-1 Juventus yn Cagliari ddydd Sul (Mawrth 14) gydag adroddiadau yn yr Eidal yn awgrymu y bydd allan am dair wythnos.

Dim ond tair o 20 gêm olaf Cymru y mae Ramsey wedi’u dechrau, gydag ef yn tynnu allan o gemau rhyngwladol yn dipyn o thema dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Mae’n rhaid i ni fod yn synhwyrol yn y ffordd rydym yn delio ag ef ac mae cyfathrebu rhyngom ni a’r clwb yn hanfodol,” meddai’r pennaeth dros dro Robert Page, a fydd unwaith eto’n sefyll i mewn i’r rheolwr absennol Ryan Giggs.

“Byddwn yn trafod gyda’r clwb ac yn gweld lle rydyn ni gydag ef.

“Ond mae’n rhaid i ni barchu efallai na fydd Juventus eisiau mentro ei chwarae a sicrhau ei fod yn aros yno i adfer.

“Ni fydd ein tîm meddygol yn cymryd unrhyw siawns os nad yw’n mynd i fod yn ffit, ond cawn weld a allwn ei gael draw yma i ni gael golwg arno.”

Cymru heb gynnal trafodaethau â Tottenham ynglyn â Gareth Bale

Dywedodd Page nad oes unrhyw drafodaethau wedi cael eu cynnal rhwng Cymru a Tottenham dros gyflwr Gareth Bale.

Mae Bale wedi dechrau pedair gêm olaf Tottenham yn yr Uwch Gynghrair ar ôl cael trafferth i sicrhau ei ffitrwydd ar gyfer rhan helaeth o’r ymgyrch.

“Nid ydym wedi siarad gyda nhw,” meddai Page pan ofynnwyd iddo a oedd wedi siarad â Jose Mourhino, rheolwr Tottenham.

“Rwy’n credu ei fod yn deall hefyd bod gennym gemau pwysig, ac rwy’n dal i ddweud bod gennym dîm meddygol sy’n deall beth maen nhw’n ei wneud o ran Gareth.

“Mae’n chwarae mwy o funudau yn dod i mewn i’r gwersyll hwn yn fwy ffit na’r oedd yn y gwersyll ym mis Tachwedd, pan nad oedd wedi chwarae llawer o funudau ac fe wnaethon ni reoli ei lwyth yn dda.

“Nid yw hynny’n wahanol nawr.”

Ryan Giggs

Cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer dechrau ymgyrch Cwpan y Byd

Ryan Giggs wedi bod yn rhan o’r broses o ddethol y garfan, sy’n cynnwys Aaron Ramsey a Joe Allen, ar gyfer dwy gêm gymhwyso ac un gêm gyfeillgar