Mae amddiffynnwr Caerdydd, Perry Ng, wedi galw ar Gaerdydd i fynd ar “rediad newydd” ar ôl i’r Adar Gleision golli o 2-1 yn erbyn Watford ddydd Sadwrn (Mawrth 13).
Nid oedd y clwb wedi colli ers 11 gêm cyn hynny, gyda Mick McCarthy’n gwneud dechreuad penigamp i’w gyfnod fel rheolwr.
“Doedd y rhediad ddim yn gallu para am byth,” meddai Perry Ng wrth Cardiff City TV.
“Roedden ni wedi siomi, wrth gwrs. Dywedodd y rheolwr ychydig eiriau a dywedodd rhai o’r bechgyn fod angen i ni fynd ar rediad newydd nawr – dyna’r cyfan y gallwn ei wneud a byddwn yn edrych i wneud hynny nos Fawrth.
“Dydw i ddim yn meddwl bod timau’n hoffi dod yma a byddwn yn edrych i’w gwneud hi’n anodd i [Stoke City] ddydd Mawrth a gobeithio cael y tri phwynt.”
Dim ond un gêm y mae Perry Ng wedi ei fethu i’r Adar Gleision ers ymuno â’r clwb ym mis Ionawr, a hynny oherwydd anaf.
Ac er mai’r rheolwr blaenorol Neil Harris oedd yn gyfrifol am ei arwyddo, mae wedi sefydlu ei hun yn rhan allweddol o dîm cyntaf Mick McCarthy.
“Alla i ddim disgwyl i gael y cefnogwyr yn ôl”
Ar ôl dau fis gyda’r Adar Gleision, bu Perry Ng ym myfyrio ar fywyd ym mhrifddinas Cymru ar y cae ac oddi arno.
“Rwy’n ei fwynhau’n fawr,” meddai. “Mae’n debyg i ble rydw i’n dod o yn Lerpwl ac mae’n ymddangos yn ddinas braf iawn ac mae’r bobol yn hyfryd felly rwy’n ymgartrefu’n dda.
“Gobeithio y gall y cefnogwyr ddychwelyd yn fuan gan fod ambell un o’r bechgyn wedi bod yn siarad am ba mor dda ydyn nhw a sut awyrgylch maen nhw’n ei greu yn y stadiwm.
“Alla i ddim disgwyl i gael y cefnogwyr yn ôl a theimlo’r cariad!”