Mae Paul Bodin, rheolwr tîm o dan 21 Cymru, wedi enwi un ar ddeg chwaraewr newydd yn ei garfan i wynebu Gweriniaeth Iwerddon ar ddydd Gwener (Mawrth 26) ym Mharc y Glowyr, Wrecsam, gyda’r gic gyntaf am 1 o’r gloch.

Bydd Dan Barden, Fin Stevens a Rubin Colwill yn gobeithio chwarae i’r tîm am y tro gyntaf, ar ôl camu fyny i’r tîm gyntaf gyda’u clybiau’r tymor hwn.

Bydd hefyd cyfle i Brandon Cooper, Luke Jephcott a Sam Pearson ddatblygu ymhellach yn y garfan ar ôl bod yn rhan o’r ymgyrch diwethaf.

Mae’r gêm yn gyfle i Paul Bodin i baratoi ei garfan ar gyfer ymgyrch cymhwyso Ewro 2023 o dan 21 a fydd yn dechrau ym mis Medi.

Bydd Cymru yn wynebu’r Iseldiroedd, y Swistir, Bwlgaria, Moldofa a Gibraltar yng Nghrŵp E.

Dyma fydd y tro gyntaf i Gymru’n herio’r Weriniaeth mewn gêm o dan 21.

Bydd y gêm yn cael ei darlledu ar sianelau Facebook a YouTube Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Y Garfan: Lewis Webb (Abertawe), Daniel Barden (Norwich City), Nathan Shepperd (Brentford), Brandon Cooper (Abertawe), Billy Sass-Davies (Yeovil, ar fenthyg gan Crewe Alexandra), Ryan Astley (Everton), Morgan Boyes (Lerpwl), Edward Jones (Stoke City), Owen Beck (Lerpwl), Fin Stevens (Brentford), Niall Huggins (Leeds United), Terry Taylor (Burton Albion), Lewis Collins (Casnewydd), Sam Bowen (Caerdydd), Siôn Spence (Crystal Palace), Sam Pearson (Bristol City) , Joe Adams (Grimsby, ar fenthyg gan Brentford), Luke Jephcott (Plymouth Argyle), Christian Norton (Stoke City), Rubin Colwill (Caerdydd), Rhys Hughes (Everton), Jack Vale (Rochdale, ar fenthyg gan Blackburn Robers), Ryan Stirk (Birmingham City).