Roedd hi’n noson siomedig i glybiau Cymru neithiwr (nos Fawrth, Mawrth 17) wrth i Abertawe a Chasnewydd golli, tra bod Caerdydd a Wrecsam wedi cael gêmau cyfartal.

Cafodd gobeithion Abertawe o godi i’r safleoedd dyrchafiad awtomatig ergyd drom wrth i Bournemouth eu curo o 3-0.

Rhoddodd ergyd Philip Billing Bournemouth ar y blaen, cyn i Joel Latibeaudiere roi’r bêl yn ei rwyd ei hun cyn yr egwyl.

Sicrhaodd tîm Jonathan Woodgate y fuddugoliaeth yn hwyr wrth i Arnaut Danjuma sgorio gydag ychydig funudau’n weddill.

Mae Abertawe’n aros yn y trydydd safle, driphwynt y tu ôl i Watford, a gyda gêm mewn llaw.

Dywedodd Steve Cooper, rheolwr Abertawe, fod y ddwy gôl gyntaf yn “cynrychioli popeth nad ydw i am i’r tîm fod”.

Gêm gyfartal i Gaerdydd

Setlodd Caerdydd a Stoke City am bwynt yr un mewn gêm gyfartal 0-0 sy’n gwneud fawr ddim i helpu’r naill ochr na’r llall gyda’u gobeithion o gyrraedd y gêmau ail-gyfle.

Roedd cyfleoedd yn brin mewn gêm lle nad oedd yr un tîm ar eu gorau.

Gwrthododd cliriad anhygoel Perry Ng ergyd Jordan Thompson i Stoke yn yr hanner cyntaf, tra bod Kieffer Moore wedi methu dau gyfle hwyr i’r Adar Gleision.

Cyn y gêm roedd Perry Ng, wedi galw ar Gaerdydd i fynd ar “rediad newydd” ar ôl i’r Adar Gleision golli o 2-1 yn erbyn Watford ddydd Sadwrn (Mawrth 13).

Mae’r canlyniad yn golygu fod Caerdydd yn disgyn i lawr i’r nawfed safle yn y Bencampwriaeth, chwe phwynt oddi wrth y safleoedd gêmau ail-gyfle.

Dywedodd Mick McCarthy, rheolwr Caerdydd: “Doeddwn i ddim yn hapus ar hanner amser, doedden ni ddim yn ddigon ymosodol, roedd yn hanner cyntaf gwael.

“Roedd yr ail hanner yn llawer iawn gwell ac roeddwn i’n meddwl mai ni gafodd y cyfleoedd gorau.

“Ond os na allwch ei ennill, peidiwch â cholli ac roedd hi’n gêm galed, anodd.”

Casnewydd yn colli’r cyfle i gau’r bwlch ar y safleoedd dyrchafiad

Collodd Sir Casnewydd y cyfle i gau’r bwlch ar dri uchaf League Two wrth iddynt golli yn erbyn Port Vale.

Sgoriodd Port Vale ar ôl 12 munud wrth i Tom Conlon rwydo i’w rhoi ar y blaen, cyn i Gasnewydd unioni’r sgôr ddeg munud i mewn i’r ail hanner.

Ond Port Vale gafodd y gair olaf, wrth i Devante Rodney sgorio gyda chwarter awr yn weddill i sicrhau’r triphwynt i’r tîm cartref.

Mae Casnewydd yn aros yn y pedwerydd safle, bedwar pwynt i ffwrdd o’r safleoedd dyrchafiad awtomatig.

Rheolwr Wrecsam yn cael cerdyn coch am y tro cyntaf

Cafodd Dean Keates, rheolwr Wrecsam, yn ogystal â rheolwr cynorthwyol Eastleigh Jason Bristow eu hanfon o’r cae mewn gêm ddramatig.

Sgoriodd Joe Tomlinson gyntaf i’r ymwelwyr gydag ymdrech wych o ymhell y tu allan i’r bocs i roi Eastleigh ar y blaen.

Sgoriodd Reece Hall-Johnson i Wrecsam i unioni’r sgôr, ond yn fuan ar ôl yr egwyl rhoddwyd cerdyn coch i Fiacre Kelleher, Wrecsam.

Roedd Joe Tomlinson wrth law i sgorio ei ail, yn y cwrt cosbi y tro hwn, ond enillodd gôl Kwame Thomas bwynt i dîm 10 dyn Wrecsam.

Roedd chwaraewyr a staff hyfforddi y ddau glwb yn trafod newidiadau posibl i’w tîmau ar ochr y cae pan wnaeth Ben House o glwb Eastleigh a rheolwr Wrecsam Dean Keates fod mewn cwthrwfl gyda phum munud yn weddill.

Dangoswyd cardiau coch i Dean Keates a rheolwr cynorthwyol Eastleigh Jason Bristow, ond ni chafodd yr un o’r chwaraewyr gerdyn yn y digwyddiad.

Dywedodd cyfrif cyfryngau cymdeithasol Wrecsam mai dyma’r tro cyntaf erioed i un o’u rheolwyr gael ei anfon o’r cae.

Mae Wrecsam yn aros yn y pedwerydd safle yn dilyn y gêm gyfartal.

Mae’r canlyniad yn golygu fod Wrecsam yn aros yn y pedwerydd safle yn y Gynghrair Genedlaethol.