Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi ymddiheuro am fethu ag amddiffyn plant a ddioddefodd gamdriniaeth rywiol yn y gorffennol.
Dangosodd adolygiad annibynnol fod y Gymdeithas yn euog o “fethiannau sefydliadol” wrth ohirio gweithredu mesurau er mwyn cadw plant yn ddiogel rhwng 1995 a gwanwyn 2000.
Roedd yr adolygiad yn dweud y dylai cyhuddiadau amlwg yn erbyn camdrinwyr plant fod wedi sbarduno newid, ond ei bod wedi cymryd pum mlynedd ychwanegol i Gymdeithas Bêl-droed Lloegr weithredu ar broses briodol.
Yn dilyn cyhoeddi’r adolygiad, dywedodd y Gymdeithas eu bod yn “llawn gefnogi a derbyn” y darganfyddiadau.
‘Ymddiheuro o waelod calon’
Fe wnaethon nhw ychwanegu bod camau ar y gweill i weithredu ar yr awgrymiadau.
Wrth siarad â’r goroeswyr, dywedodd Mark Bullingham, Prif Weithredwr y Gymdeithas ei fod yn eu “hedmygu’n fawr”.
“Bu eich dewrder drwy gydol y broses yn anhygoel. Mae eich lleisiau wedi bod mor bwerus.
“Mae’n rhaid i ni wneud popeth allwn ni i ddysgu gwersi, a sicrhau nad ydy camdriniaeth fel hyn yn digwydd eto.
“Ar ran Cymdeithas Bêl-droed Lloegr a’r gêm yn Lloegr, hoffwn ddechrau drwy ymddiheuro o waelod calon i’r goroeswyr bod hyn wedi digwydd o fewn pêl-droed. Ni ddylai’r un plentyn orfod dioddef y gamdriniaeth hon.
“Roedd yr hyn wnaethoch chi ei ddioddef yn erchyll, ac mae’n drist na chafodd rhagor ei wneud ar y pryd i sicrhau eich bod yn derbyn gofal haeddiannol.”
Bydd y Gymdeithas yn parhau i weithio gyda’r awdurdodau i helpu i wneud yn siŵr fod chwaraeon yn sâff i bobol ifanc, yn ogystal â gweithredu i “aildanio’r sgwrs am bwysigrwydd diogelwch, ym mhob rhan o gymdeithas.”