Ar drothwy’r gêm enfawr ym Mharis nos Sadwrn, mae dau arbenigwr wedi bod yn cnoi cil ar obeithion Cymru o fedru maeddu ceiliogod Ffrainc ar eu tomen eu hunain…  

Bydd rhaid i dîm rygbi Cymru amddiffyn yn gadarn a bod yn ddisgybledig er mwyn ymosod ar Ffrainc wrth fynd am y Gamp Lawn nos Sadwrn, yn ôl dau aelod o bodlediad rygbi S4C, Y Sgarmes Ddigidol.

Mae’r dyfarnwr Nigel Owens ac Elinor Snowsill, maswr tîm merched Cymru, wedi bod yn trafod gobeithion Cymru ar drothwy’r gêm olaf ym Mharis wrth i dîm Wayne Pivac geisio nid yn unig ennill y Bencampwriaeth, ond cynnal eu record 100% yn y gystadleuaeth eleni hefyd – rhywbeth y byddai ychydig iawn o bobol wedi’i ddisgwyl o ystyried y canlyniadau siomedig y llynedd.

Serch hynny, mae Elinor Snowsill yn rhybuddio bod y gystadleuaeth a’r Gamp Lawn ymhell o fod wedi’u hennill.

“Mae yna lot o bethau sydd angen digwydd gyntaf cyn i Gymru ennill y Bencampwriaeth, o ran y perfformiad a sut mae’r gêm yn mynd,” meddai. “Mae gan Gymru’r gred, rydych chi’n gallu dweud o’r cyfweliadau sydd yn dod o’r garfan, maen nhw i gyd mor dynn ac yn credu bo nhw’n gallu gwneud e ac mae hynny’n beth mawr iawn mewn gêm fel hon.

“Ac yn bwysig iawn yn erbyn yr Eidal, wnaethon nhw ddim pigo lan unrhyw anafiadau, sy’n golygu bod Pivac yn gallu dewis carfan gref iawn. I fi, bydd yr amddiffyn yn bwysig iawn oherwydd mae pac Ffrainc mor fawr a mor bwerus. Os allan nhw stopio nhw ar y llinell a gyrru nhw nôl, mae gyda nhw fwy na siawns.”

Mae Nigel Owens, sy’n gwylio’i Chwe Gwlad gyntaf o’r ystlys ers ymddeol o ddyfarnu rhyngwladol ar ddechrau’r flwyddyn, yn cytuno y bydd yr amddiffyn, o dan ofal Gethin Jenkins, yn allweddol i obeithion Cymru – yn enwedig yn erbyn Shaun Edwards, wyneb cyfarwydd i Gymru sydd bellach yn rhoi trefn ar amddiffyn y Ffrancod.

Wyneb Shaun Edwards
Shaun Edwards

“Pan o’n i i mewn gyda [charfan Cymru] ddydd Iau,” meddai Nigel Owens, “roedden nhw’n gweithio’n galed, yn gwneud yn siŵr fod pawb tu ôl i’r bêl pan maen nhw’n cicio a chwrso’r bêl, i beidio rhoi ciciau cosb bant. Mae Gethin Jenkins wedi bod yn rhan o dîm Cymru ers blynydde maith drwy gyfnod Shaun Edwards, felly bydd e wedi dysgu lot gan bobol fel Shaun a Robin McBryde. Dyw e ddim yn synnu fi fod yr amddiffyn wedi gwella lot, ac mi fydd rhaid iddo fod yn arbennig yn erbyn Ffrainc. Shaun Edwards lan yn erbyn Gethin Jenkins, mae am fod yn yffach o gêm ddydd Sadwrn.”

O safbwynt dyfarnwr, mae Nigel Owens hefyd yn rhybuddio y bydd rhaid i ddisgyblaeth Cymru fod yn dda yn erbyn Ffrainc, fel y bu yng ngweddill y gystadleuaeth ar y cyfan, yn enwedig gan ei fod yn disgwyl gêm agos o ran y sgôr.

Gethin Jenkins

“Mae nifer y ciciau cosb mae [Cymru yn] rhoi i ffwrdd wedi bod yn isel iawn, a ddim yn rhoi’r cyfle wedyn i’r gwrthwynebwyr. Bydd y gêm yn Ffrainc yn dod lawr i gwpwl o bwyntiau ac felly bydd disgyblaeth yn hollol, hollol bwysig nos Sadwrn. Mae tueddiad gan Ffrainc o golli eu pennau ambell waith pan dyw pethau ddim yn mynd eu ffordd nhw. Doedd ennill ym Mharis ddim yn rhywbeth oedden ni’n weld yn aml iawn ers talwm. Ond yn ystod cyfnod [Warren] Gatland, mae ennill yn Ffrainc wedi dod yn gyfarwydd i’r tîm yma. Fi’n eithaf ffyddiog, os allan nhw gymryd y cyfleoedd a chadw disgyblaeth, bydd yna fuddugoliaeth.”

Gêm yr haneri?

Pe bai amddiffyn Cymru’n aros yn gadarn ac yn gwrthsefyll yr ymosodiadau anochel gan Ffrainc, bydd hynny’n gosod y seiliau a’r llwyfan i’r haneri sefydlu’r ymosod, meddai Elinor Snowsill.

“Mae rheolaeth rhif naw a deg yn mynd i fod yn bwysig – ydyn nhw’n cicio, ydyn nhw’n ffeindio’r gwagle, neu gicio’n gystadleuol, i roi pwysau ar Ffrainc? Mae tiriogaeth yn mynd i fod yn bwysig iawn. Os maen nhw’n llwyddo i gadw’r bêl a disgwyl i Ffrainc rhoi ciciau cosb i ffwrdd, yna chi’n syth lawr yn eu dwy-ar-hugain nhw.

“Mae’n rhaid cadw’r amrywiaeth mewn ymosod wnaethon nhw ddangos yn erbyn yr Eidal, efo Jon Davies a George North yn y canol, defnyddio blaenwyr yn cario’n gryf o gwmpas y lein ac wedyn cael y bêl mas i’r asgellwyr.”

Jonathan Davies

Er i Ffrainc golli o 23-20 yn erbyn Lloegr y penwythnos diwethaf, sgoriodd y mewnwr Antoine Dupont gais o fewn 65 eiliad i’r gic gyntaf. Ac er i sylwebyddion ledled y gamp ei osod ymhlith mewnwyr gorau’r gêm, mae Elinor Snowsill yn tynnu sylw at un digwyddiad sy’n dangos ei fod e’n ddynol o hyd.

“Wnaeth e gnocio’r bêl ymlaen unwaith!” meddai, cyn canmol ei rinweddau fel pêl-droediwr ochr yn ochr â’r olwyr cryf eraill sydd gan Ffrainc. “Fi’n rili hoffi’r ciciau bach tu allan y droed mae e’n gwneud, mae e mor anodd amddiffyn rheina pan mae pawb yn amddiffyn yn y llinell. Wedyn mae gyda nhw [Matthieu] Jalibert yn ymosod, a [Virimi] Vakatawa y tu allan iddo fe.”

Ac mae hi’n disgwyl “brwydr fawr” rhwng Vakatawa a George North, fydd yn ennill cap rhif 102 ei yrfa ym mhrifddinas Ffrainc.

“Mae’n anodd iawn taclo rhywun fel Vakatawa pan mae e’n dod i’r llinell gyda chymaint o gyflymder, pan mae’r amddiffyn yn drifftio. Mae e’n mynd i fod yn frwydr fawr rhyngddo fe a George North. Mae George wedi gwella ei amddiffyn gymaint, ond dyma fydd y sialens fwyaf iddo fe yn y Chwe Gwlad, heb os.”

Darogan y canlyniad

Pe bai’r elfennau hyn yn chwarae Cymru’n llwyddo, mae Elinor Snowsill a Nigel Owens, ill dau, yn gytûn y bydd tlws y Chwe Gwlad a’r Gamp Lawn yn dod adref i Gymru.

Tra bod Elinor Snowsill yn mynd am fuddugoliaeth o 28-26 i Gymru, mae Nigel Owens yn cyfaddef y byddai wedi teimlo’n wahanol pe bai’r Stade de France dan ei sang.

“I fod yn onest, os fyddai’r dorf yn y stadiwm, fyddwn i wedi mynd am Ffrainc. Sa i’n siŵr sut fyddan nhw’n ymateb ar ôl colli yn erbyn Lloegr, mae’r Gamp Lawn wedi mynd o’u gafael nhw. Ydyn nhw’n mynd i fod bach yn fwy rhydd yn eu chwarae? Gall hynny fod yn fwy danjerys. Neu siwtio Cymru? Fi’n mynd i fynd am 23-19 i Gymru.”

Cymru am gadw at eu cynllun cyfarwydd yn erbyn Ffrainc, medd George North

Bydd Cymru’n ennill y Gamp Lawn pe baen nhw’n fuddugol yn Paris y penwythnos nesaf