Mae’r cwmni ecwiti preifat CVC wedi cwblhau cytundeb gwerth £365m ar gyfer cyfran o 14% ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Er y bydd Undeb Rygbi Cymru yn derbyn £51m dros bum mlynedd nid yw’n glir eto a fydd modd i S4C barhau i ddarlledu’r gemau oherwydd y cytundeb newydd.

Rhyngddynt bydd gan undebau Cymru, yr Alban, Iwerddon, Lloegr, Ffrainc, a’r Eidal gyfran o 85.7%, ac yn cadw’r cyfrifoldeb am faterion chwaraeon yn ogystal â rheolaeth o benderfyniadau masnachol.

Mae’r cytundeb hefyd yn cynnwys Pencampwriaeth y Merched a’r Bencampwriaeth Dan 20, ynghyd â chyfres yr hydref.

Cymysgedd o deledu daearol a wal dalu?

O ystyried y trefniadau sydd eisoes ar waith yng nghystadlaethau’r PRO14 ac Uwchgynghrair Lloegr, sydd hefyd dan berchnogaeth rannol gan CVC, gallai’r cytundeb arwain at newid o ran sut mae gemau rhyngwladol yn cael eu darlledu.

Y canlyniad mwyaf tebygol fyddai cymysgedd o deledu daearol a darlledu y tu ôl i wal dalu.

Ar hyn o bryd mae S4C yn darlledu holl gemau Cymru, ac roedd hynny hefyd yn wir yn ystod Cwpan Cenhedloedd yr Hydref – er mai cwmni ffrydio Amazon Prime oedd a’r hawliau i’r gystadleuaeth honno.

Mae’r cytundeb i ddarlledu gemau’r Chwe Gwlad ar y BBC ac ITV, sy’n galluogi S4C i ddarlledu’r gemau, yn dod i ben eleni.

Bydd yn rhaid aros i weld a fydd hawl gan S4C i barhau i ddarlledu holl gemau Cymru dan y drefn newydd.

‘Darparu sylfaen i’r gêm ffynnu’

Ond heddiw mae prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru wedi galww’r fargen newydd yn “gatalydd ar gyfer twf ein gêm”.

“Dyma foment arwyddocaol yn hanes y gêm ryngwladol yng Nghymru,” meddai Steve Phillips.

“Bydd yn gwella’r twrnameintiau rhyngwladol rydym yn cymryd rhan ynddynt yn uniongyrchol, gan ymgysylltu ymhellach â chefnogwyr newydd a rhai sy’n bodoli eisoes.

“Mae mwy o ddiddordeb yn arwain at fwy o gyfleoedd ar y cae ac oddi arno. Yn anuniongyrchol, bydd y buddsoddiad yn ei dro yn darparu sylfaen i’r gêm ffynnu.”

Eglurodd Ben Morel, Prif Swyddog Gweithredol Rygbi’r Chwe Gwlad mai “ychwanegu gwerth” i’r gêm yw nod y cytundeb.

“Mae’r buddsoddiad allanol hwn yn dangos yr hyn mae Rygbi’r Chwe Gwlad wedi’i gyflawni hyd yma ac mae’n gam allweddol wrth i ni fuddsoddi i dyfu’r gêm ar lwyfannau’r byd,” meddai.

“Mae CVC yn cydnabod y potensial sydd gan Bencampwriaethau’r Chwe Gwlad a chyfresi Rhyngwladol yr Hydref, ac mae ganddynt yr un weledigaeth â ni ar gyfer y dyfodol.”

Tro pedol ynglŷn â darlledu Cwpan Cenhedloedd yr Hydref ar S4C

S4C wedi dod i gytundeb i ddarlledu gêmau Cymru yn fyw