Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun newydd gwerth £1.3m i geisio helpu sector bwyd mor Cymru i ddelio ag effeithiau Brexit a Covid-19. 

Mae’r sector yng Nghymru wedi’u tarfu yn “ddifrifol” ac mae llawer o fusnesau dyframaethu cregyn gleision wedi gweld masnachu yn dod i ben yn llwyr.

Bydd y cynllun newydd yn galluogi i fusnesau pysgota sy’n berchen ar longau yng Nghymru gael grant sy’n cyfateb i gostau longau am dri mis, wedi’i gapio ar £10,000.

Bydd busnesau dyframaethu yn gallu gwneud cais am grant ar gyfer tri mis cyntaf 2021, i ddarparu hanner eu refeniw gros misol cyfartalog, wedi’i gapio ar £40,500.

Tra’n debyg i Gronfa Ymateb Bwyd Môr Llywodraeth y Deyrnas Unedig, bydd cynllun gan Lywodraeth Cymru yn parhau am hirach.

‘Tarfu difrifol’

“Ers mis Ionawr, mae busnesau bwyd môr yng Nghymru wedi dioddef tarfu difrifol ar eu masnachu,” meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

“Er fy mod yn croesawu’r gefnogaeth a roddwyd gan Lywodraeth y DU drwy ei Chronfa Ymateb Bwyd Môr, nid yw ond yn rhoi cefnogaeth rannol i fusnesau pysgodfeydd a dyframaethu yng Nghymru.

“Oherwydd hyn, teimlwn ei bod yn hanfodol ein bod yn rhoi’r cymorth sydd ei angen ar fusnesau bwyd môr yn ystod y cyfnod anodd hwn.

“Bydd y cymorth a ddarperir yn helpu’r rhai sy’n gymwys i dalu eu costau yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac yn sicrhau bod gennym sector bwyd môr cystadleuol unwaith y bydd yr argyfwng hwn wedi mynd heibio.

“Addawyd i ni na fydden ni’n derbyn ‘ceiniog yn llai’ ar ôl gadael yr UE. Mae’n amlwg bod y fargen hon wedi’i thorri. Byddaf yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU i gadw at eu gair ynghylch yr ymrwymiad a wnaethant i’n sector pysgota a dyframaethu.”

Cynllun Seilwaith Arfordirol Ar Raddfa Fach

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi cronfa £1m i bob porthladd ac awdurdod lleol arfordirol i wneud gwelliannau i borthladdoedd.

Bydd y cynllun yn darparu grantiau o hyd at £100,000 ar gyfer buddsoddi mewn porthladdoedd a harbyrau.

“Wrth i fusnesau masnachu edrych tua’r dyfodol ac adfer, mae seilwaith sy’n cael ei gynnal a’i gadw’n dda yn allweddol i ganiatáu iddynt lwyddo,” ychwanegodd Lesley Griffiths.

“Bydd y Cynllun Seilwaith Arfordirol ar Raddfa Fach yn caniatáu gwelliannau mewn porthladdoedd a harbyrau ledled Cymru.”

“Mae cadwyn gyflenwi syml a lleol llawer cryfach”

“Mi fydd ein pysgotwyr ni yn cael amser uffernol hefo Brexit, ac maen nhw yn cael yn barod”

Pysgotwr o Ben Llyn yn dweud nad yw wedi cael ei dalu ers mis Tachwedd

Y diwydiant wedi cael “dim help” gan y Llywodraeth, meddai, wrth i’r gwleidyddion ddadlau