Bydd yr argyfwng covid yn parhau trwy gydol y flwyddyn hon, a byddwn yn gorfod cymryd gofal am fisoedd i ddod.
Dyna mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi ei ddweud wrth gylchgrawn i ar drothwy adolygiad i’r rheolau coronafeirws yng Nghymru.
Mae Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn gobeithio llacio rheolau yn llwyr yn Lloegr erbyn Mehefin 21.
Ond mae Mark Drakeford wedi dweud bod yr uchelgais hynny’n “or-optimistaidd (fanciful)”, a bod y syniad o ddychwelyd at normalrwydd eleni ddim yn “realistig”.
“Mae’r coronafeirws, yn fy marn i, yn mynd i fod gyda ni am weddill y flwyddyn,” meddai. “Mae pedwaredd don yn anochel yn awr.
“Sut mae delio â hynny, a’i ffrwyno fel nad oes rhaid i ni gymryd camau mawr fel yr ydym wedi’u profi dros y 12 mis diwethaf – dyna yw’r cwestiwn nawr.
“O ran pellhau yn gymdeithasol, golchi dwylo, trin pobol eraill mewn modd parchus, meddwl am nifer y bobol rydym yn cymysgu â nhw – mae’r rhain i gyd yn mynd i barhau am weddill y flwyddyn.”
Ni ddylai pobl gymryd bod y pandemig wedi dod i ben jest am fod y rhaglen frechu yn weithredol, yn ôl y Prif Weinidog.
Haul ar fryn?
Ddydd Gwener mae disgwyl iddo gyhoeddi y bydd rhywfaint o reolau covid yn cael eu llacio.
Mae’n bosib y bydd cyfyngiadau yn codi yn gyflymach nag yn Lloegr dros yr wythnosau nesa’, a dyw Mark Drakeford ddim wedi gwadu hynny.
“Fydden i ddim eisiau dal yn ôl o ran ailagor rhannau o economi Cymru jest am fod cyfraddau [covid] mewn llefydd eraill heb gyrraedd ein lefelau ni,” meddai.
Optimistiaeth Andrew RT
Mae Andrew RT Davies, arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd, wedi ceryddu’r Prif Weinidog, gan ddadlau “ein bod mewn safle i ddarparu gobaith i bobol Cymru”.
“Os wnawn ni barhau i ddilyn y trywydd presennol (o ran cyflwyno’r brechlyn a niferoedd isel o achosion) does dim rheswm pam na allwn ni ddychwelyd at lefel dda o normalrwydd yr haf hwn,” meddai.
“Yn anffodus dyw gweinidogion Llafur ddim yn canolbwyntio ar ddelifro blaenoriaethau pobol, ac mae yna fwy o ddiddordeb mewn chwarae gemau gwleidyddol na delifro syniad clir o sut y dawn ni (teuluoedd, gweithwyr a busnesau) mas o’r cyfyngiadau yng Nghymru.
“Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig fydd yn delifro y fath gynllun a fydd yn diogelu bywydau, ac yn achub bywoliaethau yng Nghymru.”