Mae Partneriaeth John Lewis wedi rhybuddio y bydd rhagor o’i siopau yn cau ar ôl i’r pandemig arwain at y golled flynyddol gyntaf yn hanes y cwmni.
Mae’r grŵp, sydd hefyd yn berchen siopau Waitrose, wedi dweud nad yw’n disgwyl i’w holl siopau John Lewis ail-agor ar ddiwedd y cyfnod clo ac mae’n disgwyl i’w canlyniadau waethygu dros y flwyddyn i ddod.
Nid oedd wedi cyhoeddi faint o’i 42 o siopau John Lewis sydd dan fygythiad ond mae wedi cadarnhau eu bod mewn trafodaethau gyda landlordiaid ac y bydd yn gwneud penderfyniad terfynol ar ddiwedd mis Mawrth.
Yn ôl adroddiadau roedd disgwyl i wyth o siopau gau, a hynny ar ben yr wyth y cyhoeddodd y cwmni ym mis Gorffennaf oedd yn mynd i gau.
Eisoes mae’r grŵp wedi cyhoeddi na fydd yn rhoi bonws i staff am y tro cyntaf ers 1953 wrth gyhoeddi colledion cyn treth o £157m am y flwyddyn hyd at fis Ionawr 30, o’i gymharu ag elw o £146m yn y flwyddyn flaenorol.
Dyma’r golled flynyddol gyntaf yn hanes y grŵp, sy’n dyddio nôl i 1864.
Mae’r cyhoeddiad yn awgrymu y gallai rhagor o swyddi fod yn y fantol ar ôl 1,300 gael eu heffeithio wrth gau siopau yn yr haf y llynedd.
Dywedodd y cwmni eu bod yn gobeithio gallu cyhoeddi elw unwaith eto yn 2022-23 ac ail-ddechrau rhoi bonws i’w staff pan fydd yr elw wedi adfer i o leiaf £150m.