Mae tywydd garw dros nos wedi gadael rhai cartrefi yng Nghymru heb gyflenwad trydan bore ma (dydd Iau, Mawrth 11).
Fe fu’r gwynt yn hyrddio tua 80mya mewn rhannau o Gymru.
Rhybuddiodd SP Energy, sy’n gwasanaethu’r gogledd a rhannau o’r canolbarth, bod adroddiadau o doriadau i gyflenwadau trydan yn Llanbrynmair, Powys, ac yng Ngwynedd.
Dywedodd Liam O’Sullivan, sy’n gyfrifol am wasanaeth y cwmni yng ngogledd Cymru, wrth Radio Wales Breakfast: “Rydym wedi adfer [cyflenwadau] 1,500 o gwsmeriaid hyd yma ac mae 1,000 yn dal heb gyflenwadau.”
Dywedodd fod y cwmni’n bwriadu adfer yr holl gyflenwadau “yn dibynnu ar y gwyntoedd yn gostegu”.
Bydd rhybudd tywydd melyn a ddaeth i rym ar draws Cymru a Lloegr am 9 o’r gloch nos Fercher (Mawrth 10) yn aros mewn grym tan 3 o’r gloch heddiw (dydd Iau, Mawrth 11).
“Risg diogelwch difrifol”
Mae’r RNLI wedi rhybuddio pobol i fod yn ofalus wrth ymweld â chlogwyni, glan môr neu pier agored oherwydd y “risg diogelwch difrifol”.
Dywedodd pennaeth diogelwch dŵr yr elusen, Gareth Morrison: “Mewn blwyddyn arferol mae tua 150 o bobol yn colli eu bywydau ar yr arfordir ac rydyn ni’n gwybod nad oedd mwy na hanner y rheiny erioed wedi bwriadu bod yn y dŵr.
“Felly, os ydych chi’n cerdded, yn rhedeg neu’n beicio ar yr arfordir, byddwch yn fwy cyfrifol ac osgoi cymryd risgiau diangen neu fynd i mewn i’r dŵr.”
Ond mae disgwyl i’r tywydd ansefydlog leddfu yn ystod y penwythnos, heb unrhyw rybuddion tywydd yn eu lle ar gyfer y penwythnos.
Coed yn syrthio
Dywedodd Heddlu Gwent bod Ffordd Pont-y-Felin yn New Inn, Torfaen a’r A472 yn Llanbadog, ar gau.
Daw hyn ar ôl i goed syrthio ar y ffordd.
Rhybuddiodd Heddlu Dyfed Powys bod coeden wedi syrthio ar draws yr A40 yn Sir Gâr, i’r gogledd o Lanymddyfri ger Erw Lon.