Mae’r heddlu yn Llundain yn parhau i holi un o’u swyddogion eu hunain ar amheuaeth o lofruddio Sarah Everard ar ôl i weddillion dynol gael eu darganfod.

Dywedodd yr Heddlu Metropolitan neithiwr (nos Fercher, Mawrth 10) bod gweddillion wedi cael eu darganfod mewn coedwig yn Ashford yng Nghaint gan dditectifs sy’n ymchwilio i ddiflaniad Sarah Everard, 33 oed.

Roedd y plismon, sy’n gweithio yn yr Adran Amddiffyn Seneddol a Diplomyddol, wedi cael ei arestio’n gynharach ar amheuaeth o herwgipio a llofruddio Sarah Everard.

“Brawychu”

Mae Comisiynydd Heddlu’r Met Cressida Dick wedi ceisio sicrhau’r cyhoedd yn dilyn y datblygiadau neithiwr, gan ddweud ei bod yn “ddigwyddiad prin iawn i fenyw gael ei chipio ar ein strydoedd.”

Ond ychwanegodd ei bod yn deall y pryder ymhlith menywod a’r cyhoedd “yn enwedig y rhai yn yr ardal lle diflannodd Sarah.” Dywedodd eu bod wedi’u “brawychu” ar ôl clywed bod swyddog o Heddlu’r Met wedi’i arestio.

Dywedodd Heddlu’r Met bod y swyddog sydd wedi’i arestio yn gweithio ar batrôl mewn safle diplomyddol ond nid ydyn nhw wedi manylu lle mae’n gweithio. Nid oedd ar ddyletswydd pan ddiflannodd Sarah Everard.

Mae’r plismon, sydd yn ei 40au, hefyd wedi’i arestio mewn cysylltiad â digwyddiad honedig arall o ddinoethi anweddus.

Mae dynes yn ei 30au wedi cael ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Rhagor o swyddogion ar batrôl

Nid yw’r gweddillion sydd wedi’u darganfod wedi cael eu hadnabod hyd yn hyn ac fe allai gymryd peth amser i wneud hynny, meddai Cressida Dick.

Dywedodd y gallai pobl yn ardal Clapham a Tulse Hill ddisgwyl gweld rhagor o swyddogion ar batrôl yn yr ardal.

Yn ogystal a chwilio yn y goedwig yn Ashford ddydd Mercher, mae swyddogion hefyd wedi bod yn chwilio eiddo yn Deal yng Nghaint.

Fe ddiflannodd Sarah Everard wrth iddi gerdded adref o fflat ei ffrind yn ne Llundain ddydd Mercher, Mawrth 3.

Credir ei bod wedi cerdded drwy Clapham Common tuag at ei chartref yn Brixton – siwrne a fyddai wedi cymryd tua 50 munud ar droed.

Cafodd ei gweld ddiwethaf ar gamera yn cerdded ar hyd yr A205 tuag at Tulse Hill tua 9.30yh ar Fawrth 3.