Bydd porthladd rhydd yn cael ei sefydlu yng Nghymru “doed a ddelo”, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Wrth gyhoeddi ei gyllideb yr wythnos ddiwethaf datgelodd y Canghellor, Rishi Sunak, y byddai wyth porthladd rhydd (porthladdoedd lle nad oes rhaid talu tariffau) yn cael eu sefydlu yn Lloegr.
Roedd Llywodraeth San Steffan wedi bwriadu cyhoeddi porthladd rhydd i Gymru hefyd, yn ôl Simon Hart ond cafodd hynny ei rhwystro gan Lywodraeth Cymru, meddai.
Yn siarad â’r wasg ddydd Mercher, yn ôl adroddiad The Nation Wales, dywedodd Ysgrifennydd Cymru y gallai’r Llywodraeth fwrw ati ta beth.
“Yn dechnegol ac yn gyfreithiol mae [gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y gallu i ymyrryd o ran] porthladdoedd rhydd,” meddai. “Rydym eisiau cydweithio, ond yn y pendraw mae gennym y gallu i fwrw ati.
“Bydd porthladdoedd rhydd yn creu ac yn cynnal swyddi, yn denu buddsoddiad, ac roedd gennym fwriad i sortio’r porthladdoedd rhydd [i gyd] ar yr un pryd.
“Mae’r ffaith nad ydym wedi gallu taro dêl â Llywodraeth Cymru yn destun rhwystredigaeth. Roeddem yn credu yr oeddem wedi cyrraedd y fan yno, ond rydym wedi profi rhwystr.
“Byddwn yn delifro porthladd rhydd i Gymru, doed a ddelo. Dw i’n credu bod yna rhywfaint o wrthwynebiad ideolegol o swyddfa Prif Weinidog Cymru.”
Porthladd rhydd yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn agored i’r posibilrwydd o sefydlu porthladd rhydd yng Nghymru, ond mae ganddi ofidion.
Mae wedi rhybuddio Llywodraeth San Steffan rhag bwrw ati heb ei chydsyniad, ac mae’n pryderu am oblygiadau’r camau yn Lloegr.
Dyw nwyddau tramor sy’n cyrraedd porthladdoedd a meysydd awyr sydd â statws ‘porthladd rhydd’ ddim yn cael eu heffeithio gan dariffau (oni bai eu bod yn diweddu fyny yn y Deyrnas Unedig).
Gofid Llywodraeth Cymru yw y gallai porthladdoedd rhydd Lloegr dynnu busnes a swyddi i ffwrdd o Gymru.
Ymhlith y porthladdoedd a fyddai mwy na thebyg yn rhoi cais am statws porthladd rhydd mae: Caergybi, Aberdaugleddau, Port Talbot, Abertawe, Casnewydd, Caerdydd, Maes Awyr Caerdydd a’r Barri.