Mae prif weithredwr y Chwe Gwlad, Ben Morel, wedi gwadu y bydd cytundeb gwerth £365miliwn gyda CVC Capital Partners yn golygu diwedd y Bencampwriaeth ar sianeli teledu rhad ac am ddim.
Mae’r cwmni ecwiti preifat wedi caffael cyfranddaliad o 14.3 y cant yn y twrnament – yn amodol ar gymeradwyaeth reoleiddiol – sy’n cyfateb i gyfran o 1/7fed, gyda’r chwe undeb yn dal cyfran yr un.
Mae’r cytundeb hirdymor hefyd yn cynnwys gemau rhyngwladol yr hydref a Phencampwriaeth y Merched a’r Bencampwriaeth dan 20 oed. Mae hyn yn ehangu buddiannau CVC mewn rygbi’r undeb yn dilyn cytundebau gydag Uwchgynghrair Gallagher Lloegr a’r Guinness PRO14.
BBC, ITV, S4C
Ar hyn o bryd mae S4C yn darlledu holl gemau Cymru, ac roedd hynny hefyd yn wir yn ystod Cwpan Cenhedloedd yr Hydref – er mai cwmni ffrydio Amazon Prime oedd a’r hawliau i’r gystadleuaeth honno.
Daw’r cytundeb presennol gydag ITV a’r BBC i ben ar ôl y Bencampwriaeth bresennol ac mae pryderon y bydd CVC yn dymuno symud i sianeli teledu sy’n codi tâl er mwyn gwneud arian.
Bydd yn rhaid aros i weld a fydd hawl gan S4C i barhau i ddarlledu holl gemau Cymru dan y drefn newydd.
Elfen hanfodol o’r trefniant newydd yw y bydd “y chwe undeb yn cadw cyfrifoldeb llwyr am bob mater chwaraeon yn ogystal â rheolaeth fwyafrifol ar benderfyniadau masnachol” meddai Morel – gan fynnu bod hyn yn cynnwys hawliau teledu.
“Does dim cysylltiad [rhwng y fargen newydd a hawliau teledu]. Mae gan CVC ddiddordeb mewn creu gwerth hirdymor,” meddai.
“Bydd unrhyw benderfyniad am deledu am ddim… neu symud i sianeli talu… bydd y penderfyniadau hynny’n parhau i fod o fewn grym yr undebau.
“Bydd yn rhaid i’r undebau wneud y penderfyniad meddylgar, hirdymor hwnnw am yr hyn sydd orau i’r gêm.
“Yn y pen draw, mae ariannu’n bwysig gan ei fod yn ariannu’r gêm yn y gymuned a’r gêm amatur. Mae angen dod o hyd i’r cydbwysedd cywir. Doedd hi ddim yn hawdd o’r blaen a nid yw’n hawdd nawr.”
‘Y tu hwnt i chwaraeon’
“Mae’r cynulleidfaoedd wedi bod yn anhygoel,” meddai Mr Morel, “mae’r adegau arbennig y mae’r Chwe Gwlad yn eu cyflwyno yn mynd y tu hwnt i chwaraeon, mewn gwirionedd. Rydym yn cydnabod y cyfrifoldeb sydd gennym.”
“Buddiannau hirdymor y gêm yw’r hyn fydd yn ein harwain, ac mae CVC yn cyd-fynd â hynny.”
Mae’r £365m sydd ynghlwm wrth y fargen yn cael ei ddosbarthu yn ôl cyfran y gynulleidfa, gydag Undeb Rygbi Lloegr yn sicrhau’r swm mwyaf, sef £95m, gan fynd i lawr i’r gyfran leiaf, sef yr Eidal, y credir ei fod oddeutu £36m. £51 miliwn yw cyfran Cymru yn ol adroddiadau.
Mae’r drefn hon ar sail cyfrannau yn gwneud newid i’r Chwe Gwlad – megis cyflwyno trefn o esgyn a disgyn o’r twrnament – yn annhebygol yn y dyfodol rhagweladwy. Mae rhai wedi bod yn galw am gyflwyno’r fath drefn wrth i’r Eidal fynd ar rediad o golli 30 gêm yn olynol.
Ad-drefnu
O ran cyflwyno timau newydd i rygbi prawf, mae Morel yn gweld amserlenni’r Hydref a Gorffennaf , a fydd yn cael eu hailwampio ar gyfer 2024, fel y cyfle gorau i wneud hynnny, a rhoi cyfle i dimau llai sefydledig.
“Nid yw hyn yn golygu y bydd y Chwe Gwlad yn aros fel y mae am byth. Dyyw’r fargen ddim yn newid pethau’n derfynol y naill ffordd na’r llall,” meddai Morel am gyflwyno esgyn a disgyn o’r twrnament.
“Rwy’n credu bod ffordd o greu gemau cystadleuol i’r gwledydd hynny sy’n datblygu er mwyn gwella ac arddangos eu hunain, a hynny ar unwaith. Dyna’r cyfle i dyfu.”
Datblygiadau
Cred Morel y bydd gêm y merched yn gweld manteision y fargen CVC drwy Chwe Gwlad well a mwy o arian ar lawr gwlad, tra bod datblygiadau arloesol newydd hefyd ar y gweill ar draws pob cystadleuaeth.
“Mae pobl eisiau gweld beth maen nhw eisiau ei weld, ar yr adeg y maen nhw eisiau ei weld e, a hynny ar y ddyfais o’u dewis. Bydd buddsoddi yn y dechnoleg sydd ar gael i ni yn allweddol,” meddai.
“Hefyd, technoleg pêl glyfar, deall symudiadau’r chwaraewyr yn ystod y gêm er mwyn deall y gêm yn well – ar gyfer cefnogwyr selog.
“Dim ond ychydig o enghreifftiau yw’r rhain, ond ar yr un pryd rydym am gadw traddodiad a gwerthoedd y Chwe Gwlad.”