Mae’r Dreigiau wedi cyhoeddi eu bod yn symud ei gemau cartref i Stadiwm y Principality, gan ddechrau drwy herio Ulster ddydd Sadwrn (Mawrth 13).

Mae pryderon am arwyneb Rodney Parade gyda gemau rygbi a phêl-droed wedi eu gohirio yno am y tro.

Mae tîm pêl-droed Casnewydd eisoes wedi symud dwy gêm yn League Two i Stadiwm Dinas Caerdydd y mis hwn.

Roedd rheolwr Casnewydd, Michael Flynn, wedi disgrifio’r cae fel y “gwaethaf” yr oedd erioed wedi’i weld.

Dywedodd y Dreigiau mewn datganiad: “Er gwaethaf ymdrechion eithriadol ein staff tir yn Rodney Parade, mae cynnal a chadw’r cae wedi dod yn fwyfwy anodd oherwydd tywydd garw a gemau cyson, ar gyfer y Dreigiau ac Chlwb Pêl-droed Casnewydd, mewn tymor digynsail.

“Bydd y cyfnod o dair wythnos – gyda Chasnewydd hefyd yn symud i leoliad arall – yn rhoi cyfle i gae Rodney Parade wella ac i waith cynnal a chadw gael ei wneud cyn i’r Dreigiau ddychwelyd ym mis Ebrill.”

Mae gan y Dreigiau dair gêm Pro14 gartref yn erbyn Glasgow, Ulster a Chaeredin y mis hwn.

Byddan nhw hefyd yn herio Northampton Saints yn y Challenge Cup ar benwythnos cyntaf mis Ebrill.

Dywedodd rheolwr Stadiwm y Principality, Mark Williams: “Ar ôl cynnal gemau yn erbyn Iwerddon a Lloegr yn ddiweddar ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad, mae’r stadiwm yn ddiogel o ran Covid ac mae’n barod i fynd.”

Y Dreigiau’n gobeithio cael cynnal gemau cartref yn Stadiwm y Principality

Gofidion am arwyneb Rodney Parade ar ôl i rygbi a phêl-droed gael ei ohirio yno