Mae Gareth Davies yn Cydnabod bod yna gystadleuaeth frwd am grys rhif naw Cymru.
Wedi i Kieran Hardy gael anaf yn erbyn Lloegr, y gwr o Gastell Newydd Emlyn sydd wedi ei ddewis i wynebu’r Eidal y penwythnos hwn, gyda Lloyd Williams ar y fainc.
Dydy Tomos Williams dal heb wella o’r anaf a gafodd yn erbyn Iwerddon ar benwythnos agoriadol y gystadleuaeth.
“Roedd Kieran yn rhagorol yr wythnos diwethaf yn erbyn Lloegr ac roedd yn anffodus iawn i gael yr anaf bach yna,” meddai Gareth Davies.
“Rwy’n teimlo bod tipyn o bwysau arnaf i berfformio cystal ag y gwnaeth e.
“Rhaid gwneud y pethau sylfaenol yn iawn, rheoli’r gêm yn dda, chwarae yn yr ardaloedd cywir a dod â chymaint o dempo â phosibl.
“Drwy gydol fy ngyrfa, mae ’na gystadleuaeth wedi bod am y crys, dw i ’di arfer â hyn.
“Fel chwaraewr dw i wastad wedi dweud bod hynny’n beth iach i fi a’r garfan.
Nid yw ond yn beth da i’r garfan gael cymaint o gystadleuaeth.
“Mae’n cadw ni gyd ar flaenau ein traed.”
‘Byd bach’
Bydd Davies yn wynebu mewnwr yr Eidal, Stephen Varney, ddydd Sadwrn – ac mae’r ddau yn hanu o siroedd cyfagos.
Gareth Davies o Sir Gaerfyrddin a Stephen Varney o Sir Benfro.
“Mae’n fyd bach, dydy?” meddai Gareth Davies.
“Mae’n fachgen o Sir Benfro ac mae allan yno yn chwarae rygbi rhyngwladol i’r Eidal.
“Mae’n eithaf rhyfedd, ond mae’n dda iddo.
“Dw i wedi ei wylio’n chwarae ychydig o weithiau i Gaerloyw ac wedi chwarae yn ei erbyn yn ystod gemau’r hydref hefyd.
“Rydyn ni’n gwybod beth yw ei gryfderau, felly bydd yn rhaid i ni gadw llygad arno. Rwy’n edrych ymlaen at y gystadleuaeth.”
Gan nad yw’r Eidal wedi ennill gêm yn y bencampwriaeth ers 2015, a heb guro Cymru ers 2007, Cymru yw’r ffefrynnau ddydd Sadwrn.
Ond mae Gareth Davies yn disgwyl gêm gystadleuol yn erbyn yr Azzuri.
“Mae’r tîm mae Wayne [Pivac] wedi dewis ar gyfer y gêm yn dangos llawer o barch iddyn nhw [yr Eidal)],” meddai.
“Ni fydd hi’ hawdd. Bydd hi’n gêm galed, ond gobeithio y gallwn ddod ar yr ochr orau.”