Mae mewnwr Cymru, Kieran Hardy, wedi ei ryddhau o garfan Cymru ar ôl anafu ei goes yn ystod buddugoliaeth Cymru yn erbyn Lloegr penwythnos diwethaf.
Bydd yn methu dwy gêm olaf Cymru yn y Bencampwriaeth yn erbyn yr Eidal a Ffrainc.
Sgoriodd Hardy gais yn ystod ail hanner y fuddugoliaeth 40-24 cyn gorfod gadael y cae gyda’r anaf.
Er nad yw Cymru yn bwriadu galw unrhyw chwaraewyr eraill i’r garfan bydd tîm hyfforddi Wayne Pivac yn gobeithio bydd y mewnwr Tomos Williams yn ffit i wynebu’r Eidal ar ôl dioddef anaf yn ystod gêm gyntaf Cymru yn erbyn Iwerddon.
Gareth Davies oedd yr eilydd yn erbyn Lloegr, ac mae mewnwr Gleision Caerdydd, Lloyd Williams, hefyd yn y garfan.
Enillodd Cymru’r Goron Driphlyg y penwythnos diwethaf a byddai buddugoliaeth yn erbyn yr Eidal ar Fawrth 13 a Ffrainc y penwythnos canlynol yn sicrhau’r Gamp Lawn iddynt.
Mae Undeb Rygbi Cymru hefyd wedi cadarnhau y bydd Aaron Wainwright ac Owen Watkin yn cael eu rhyddhau i’w rhanbarthau’r penwythnos hwn cyn ail ymuno â’r garfan genedlaethol ddydd Llun.