Gallai cyn-fewnwr Cymru, Dwayne Peel, ymuno â thîm hyfforddi y Scarlets yn hytrach na Gleision Caerdydd.
Fis Rhagfyr y llynedd cyhoeddwyd y byddai Peel yn dychwelyd i Gymru i ymuno â thîm hyfforddi Gleision Caerdydd yr haf nesaf o Ulster.
Ond nawr mae’n ymddangos bod Peel, sydd â 76 o gapiau i Gymru, yn ystyried mynd i Lanelli ac ymuno â’i hen ranbarth fel Prif Hyfforddwr.
Yna, byddai’r Prif Hyfforddwr presennol y Scarlets, Glenn Delaney, yn cael ei benodi yn Gyfarwyddwr Rygbi.
Ers i Peel gael ei apwyntio fel hyfforddwr gyda Chaerdydd mae newid wedi bod ymhlith y tîm hyfforddi yn y brif ddinas – yn dilyn ymadawiad y prif hyfforddwr blaenorol John Mulvihill cafodd Dai Young ei benodi fel Cyfarwyddwr Rygbi dros dro Caerdydd.
“Peel yn parhau dan gytundeb i Gleision Caerdydd”
Mewn ymateb i’r honiadau mae Gleision Caerdydd yn mynnu y bydd Dwayne Peel yn dechrau gyda nhw’r haf hwn.
“Mae Gleision Caerdydd yn ymwybodol o adroddiadau bod rhanbarth arall yng Nghymru wedi cysylltu â Dwayne Peel am sefyllfa hyfforddi bosibl cyn y tymor nesaf,” meddai’r Gleision mewn datganiad.
“Fe wnaeth cyn-fewnwr Cymru arwyddo contract tair blynedd gyda Gleision Caerdydd y llynedd ac mae i fod i gyrraedd Parc yr Arfau yn yr haf.
“Mae Peel, sydd ar hyn o bryd yn hyfforddwr cynorthwyol yn Rygbi Ulster, yn parhau dan gytundeb i Gleision Caerdydd rhwng mis Gorffennaf 2021 a mis Mehefin 2024.
“Ni fydd Gleision Caerdydd yn gwneud unrhyw sylw pellach.”