Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dathlu’r ffaith fod y Cymro Connor Roberts wedi’i enwi’n seren y gêm heno (nos Fercher, Mawrth 3), wrth i’r Elyrch guro Stoke gartref am y tro cyntaf ers ugain mlynedd.

Mae’r fuddugoliaeth o 2-1 yn mynd â nhw o fewn un pwynt i Brentford yn yr ail safle awtomatig tua brig y Bencampwriaeth ar ôl i Brentford golli o 1-0 oddi cartref yn Norwich.

Aeth yr Elyrch ar ei hôl hi’n gynnar yn y gêm yn Stadiwm Bet365 wrth i’r amddiffynnwr canol Marc Guehi ildio’r meddiant i Steven Fletcher, a Nick Powell yn rhwydo.

Gallai Stoke fod wedi mynd ymhellach ar y blaen gyda chyfleoedd i Tommy Smith a Steven Fletcher yn ofer, ond fe wnaeth Roberts unioni’r sgôr gyda’i bedwaredd gôl y tymor hwn wrth ddarganfod ei hun yn y cwrt cosbi gyda Ryan Manning yn croesi’r bêl o’r asgell.

Sgoriodd Andre Ayew o’r smotyn – ei unfed gôl ar ddeg y tymor hwn – bron iawn â chic ola’r gêm ar ôl i Kyle Naughton gael ei lorio gan Jack Clarke yn y funud olaf.

Ond fe allai Roberts hefyd fod wedi sgorio’n hwyr yn y gêm, a hynny wrth i’r eilydd Conor Hourihane groesi, a’r cefnwr de yn darganfod dwylo diogel Angus Gunn yn y gôl.

‘Haeddiannol’

“Gwych!” oedd ymateb Steve Cooper wrth siarad â golwg360 ar ddiwedd y gêm am berfformiad Connor Roberts.

“Mae e wedi haeddu’r wobr am seren y gêm ers tro,” meddai.

“Mae wedi bod yn dipyn o jôc yn ein hystafell newid ni, yn enwedig pan fo’r gemau wedi bod ar Sky.

“Felly mae e wedi’i chael hi o’r diwedd, ac mae’n haeddiannol.

“Roedd ei amddiffyn e’n wych hefyd.

“Bydd ei gôl e wedi dal y sylw, ei groesi hefyd, bu bron iddo fe sgorio gôl arall, copi perffaith bron iawn o’r gôl gyntaf, ond roedd ei amddiffyn e’n wych hefyd.

“Fe wnaethon ni roi pwyslais enfawr heno ar atal ac amddiffyn croesiadau, ac mae gan Stoke y gyfradd uchaf o ran llwyddiant oddi ar groesiadau yn y gynghrair i gyd.

“Y peth cyntaf i’w wneud yw atal croesiadau, dim ots am eu hamddiffyn nhw, ac fe wnaeth e hynny gystal, a felly hefyd Ryan Manning, ond yn amlwg, mae Connor wedi dal y sylw oherwydd ei gôl heno ac yn haeddiannol felly, mae e’n gwneud yn wych.

“Rydyn ni mor hapus â fe, ond mae’n rhaid iddo fe ddal i fynd.”

Pwysigrwydd asgellwyr cefn

Gyda Connor Roberts a Jake Bidwell yn dechrau’r tymor yn safle’r asgellwyr cefn, a Ryan Manning bellach yn y tîm yn lle Bidwell, mae’r safle hwnnw’n chwarae rhan allweddol yn llwyddiant yr Elyrch y tymor hwn.

“Mae wedi bod yn dipyn o nodwedd,” meddai Steve Cooper.

“Roedd Bidwell yn chwarae ar y chwith ac mae e wedi gwneud pethau tebyg yn ystod y tymor felly dyna rydych chi’n gobeithio y bydd e’n ei wneud.

“Fe wnaeth e’n dda, felly gobeithio y gall e barhau i’w wneud e.”

Buddugoliaeth yn sbardun?

Mae’r Elyrch bellach wedi ennill 18 allan o 32 o gemau ac fe fydden nhw wedi bod yn awyddus i wneud yn iawn am golli yn erbyn Huddersfield (4-1) a Bristol City (3-1), y naill ochr i fuddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Coventry.

Middlesbrough fydd yr ymwelwyr â Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn (Mawrth 3), gyda gemau i ddilyn yn erbyn Blackburn, Luton, Bournemouth a Chaerdydd cyn diwedd y mis.

“Rydyn ni bob amser eisiau defnyddio canlyniad a pherfformiad da i greu momentwm ac i gadw i fynd i mewn i’r [gêm] nesaf ac os yw heno’n cynnig hynny i ni, yna mae’n rhaid i ni afael ynddi,” meddai.

“Ond mae gyda ni drosiant cyflym nawr cyn i ni fynd eto ddydd Sadwrn, gêm anodd, carfan gref eto.”

Daw’r gêm yn erbyn Middlesbrough, sy’n nawfed yn y tabl, ar adeg dda i’r Elyrch, ar ôl iddyn nhw golli yn erbyn Coventry, sy’n ugeinfed, yn eu gêm ddiwethaf neithiwr.

“Fe welson ni’r digwyddiad neithiwr ac mae’n dangos pa mor gryf yw eu carfan nhw,” meddai.

“Rhaid i ni baratoi, yn amlwg rydyn ni’n teimlo’n dda amdanom ni ein hunain ond rhaid i ni fod yn hollol barod i fynd ddydd Sadwrn.”