Mae Gleision Caerdydd wedi cyhoeddi bydd cyn-fewnwr Cymru, Dwayne Peel, yn ymuno â thîm hyfforddi John Mulvihill y tymor nesaf.

Mae wedi ei benodi yn Uwch Hyfforddwr Cynorthwyol ar gyfer tymor 2021-22 ac ef fydd yn bennaf gyfrifol am yr ymosod.

Yn ystod ei yrfa cynriocholodd y Scarlets, Sale Sharks a Bryste gan ennill 76 o gapiau i Gymru a chynrychioli’r Llewod ar daith i Seland Newydd yn 2005.

Ar ôl ymddeol treuliodd ddau dymor fel hyfforddwr sgiliau ac ymosod gyda Bryste cyn ymuno â Rygbi Ulster fel hyfforddwr cynorthwyol yn 2017.

“Rwy’n gyffrous iawn i ddod yn ôl i Gymru, roedd y cyfle hwn gyda Gleision Caerdydd yn un rhy dda i’w wrthod,” meddai.

“Rwyf wedi mwynhau fy amser gydag Ulster ac yn hynod ddiolchgar i bawb yno. Rwy’n teimlo fy mod wedi gwneud cyfraniad da yn Ulster ac wedi datblygu arddull chwarae ddeniadol.

“Ond mae dod yn ôl adref i Gymru a chwarae rhan yn y gwaith o ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr yn gyffrous iawn. Mae gan Gleision Caerdydd gyfoeth o dalent ifanc sydd â photensial enfawr.”

‘Adeiladu ar sylfaen gadarn o hyfforddwyr Cymreig’

Eglurodd Prif Hyfforddwr Gleision Caerdydd John Mulvihill ei fod yn credu bydd penodiad Peel yn gweddu yn dda gyda’r chwaraewyr ymosodol o fewn y garfan.

“Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu Dwayne i’n grŵp hyfforddi,” meddai.

“Er bod gennym lawer iawn o dalent ymosodol yn ein carfan, mae angen i ni fynd â’n chwarae ymosodol i’r lefel nesaf ac rwy’n hyderus y bydd Dwayne yn ein helpu i gyflawni hyn a gwireddu ein potensial.

“Bydd rôl Dwyane fel uwch hyfforddwr o fewn ein rhaglen yn canolbwyntio’n bennaf ar ein fframwaith ymosod a chyflawni ein strategaeth ar y maes ac oddi arno.”

Bydd Richie Rees yn parhau fel hyfforddwr cefnwyr ac yn gweithio’n agos gyda Dwayne Peel.

“Rydym yn adeiladu sylfaen gadarn o hyfforddwyr Cymreig yma yn y Gleision Caerdydd,” ychwanegodd John Mulvihill.

Ar ôl cyfnod yn hyfforddi gyda’r Gleision ymunodd cyn prop Cymru, Gethin Jenkins, â thîm hyfforddi rhyngwladol Cymru yn ddiweddar.