Mae George North, asgellwr Cymru a’r Gweilch, wedi’i enwi yn nhîm y degawd gan World Rugby.

Oherwydd y pandemig Covid-19 eleni, penderfynodd y corff sy’n gyfrifol am rygbi’r byd wobrwyo chwaraewyr y degawd yn hytrach na pherfformiadau dros y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd cydnabyddiaeth hefyd i bobol o fyd rygbi oedd wedi cefnogi eu cymunedau yn ystod yr argyfwng.

Ers ennill ei gap cyntaf yn ddeunaw oed yn erbyn De Affrica yn 2010, mae North wedi mynd yn ei flaen i sgorio 41 o geisiau i Gymru ac mae bellach 17 cais tu ôl i record cyn-asgellwr Cymru Shane Williams.

Yn ystod Cwpan Cenhedloedd yr Hydref, enillodd North, sydd yn 28 oed, ei ganfed cap – mae ganddo 98 cap dros Gymru a thri dros y Llewod.

Cyn yr hydref, disgrifiodd y posibilrwydd o gyrraedd cant o gapiau fel un o’i “dargedau mwyaf”.

Ymhlith y chwaraewyr eraill sydd wedi’u henwi yn nhîm y degawd mae cyn-gapten Seland Newydd, Richie McCaw, a gafodd ei enwi yn chwaraewr y degawd hefyd.

Arweiniodd cyn-flaenasgellwr Seland Newydd ei wlad i lwyddiant yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn 2011 a 2015.

Bydd World Rugby yn cyhoeddi grwpiau Cwpan Rygbi’r Byd 2023 ddydd Llun nesaf (Rhagfyr 14).

Tîm Dynion y Degawd:

  1. Tendai Mtawarira (De Affrica)
  2. Bismarck du Plessis (De Affrica)
  3. Owen Franks (Seland Newydd)
  4. Brodie Retallick (Seland Newydd)
  5. Sam Whitelock (Seland Newydd)
  6. David Pocock (Awstralia)
  7. Richie McCaw (Seland Newydd)
  8. Sergio Parisse (Yr Eidal)
  9. Conor Murray (Iwerddon)
  10. Dan Carter (Seland Newydd)
  11. Bryan Habana (De Affrica)
  12. Ma’a Nonu (Seland Newydd)
  13. Brian O’Driscoll (Iwerddon)
  14. George North (Cymru)
  15. Ben Smith (Seland Newydd)