Bydd tri o dimau pêl-droed Cymru yn chwarae yng nghynghreiriau Lloegr heno (dydd Mawrth, Rhagfyr 8).
Abertawe yw’r unig un o’r tri fydd yn chwarae gartref a hynny yn erbyn Bournemouth, ac fe allen nhw godi i frig y Bencampwriaeth pe baen nhw’n ennill.
Gallai’r Adar Gleision godi i’r nawfed safle pe baen nhw’n ennill oddi cartref yn Stoke, ac mae gan Gasnewydd gyfle i ddal eu gafael ar frig yr Ail Adran oddi cartref yn Grimsby.
Abertawe
Mae Joel Latibeaudiere yn gobeithio cadw ei le yng ngharfan Abertawe ar ôl dod oddi ar y fainc am ei ymddangosiad cyntaf yng nghrys yr Elyrch yn y fuddugoliaeth o 2-0 dros Luton ddydd Sadwrn (Rhagfyr 5).
Mae’r amddiffynnwr 20 oed ar fenthyg o Manchester City ers diwrnod ola’r ffenest drosglwyddo, ond bu’n rhaid iddo aros am ei gyfle yn sgil anaf a pherfformiadau ei gyd-chwaraewyr.
Mae George Byers (cesail y forddwyd) a Morgan Gibbs-White (wedi torri’i droed) yn dal allan am y tro.
Mae’r Elyrch un pwynt y tu ôl i’w gwrthwynebwyr.
Mae disgwyl i Arnaut Danjuma a Joshua King ddychwelyd i dîm Bournemouth, wrth iddyn nhw gobeithio adeiladu ar fuddugoliaeth o 4-0 dros Barnsley y tro hwn.
Bu Danjuma yn dioddef o anaf i linyn y gâr, tra bod King wedi profi’n bositif ar gyfer y coronafeirws.
Mae Cameron Carter-Vickers allan ag anaf i’w ffêr, tra bod Jaidon Anthony a Sam Surridge yn gwthio am le yn y tîm eto.
Byddai pwynt yn ddigon i Bournemouth godi i’r brig am y tro cyn i Norwich chwarae nos yfory (nos Fercher, Rhagfyr 9).
Caerdydd
Mae Caerdydd yn gobeithio am bedwaredd buddugoliaeth o’r bron wrth iddyn nhw herio Stoke.
Mae Greg Cunningham yn gobeithio dechrau ar ôl bod ar y fainc dros y penwythnos yn Watford, ar ôl bod allan ers Hydref 18.
Ond mae Jordi Osei-Tutu yn annhebygol o ddychwelyd cyn y Nadolig oherwydd anaf i linyn y gâr ac mae gan Lee Tomlin anaf i gesail y forddwyd.
Mae Stoke heb lu o chwaraewyr wrth iddyn nhw groesawu Caerdydd yn y Bencampwriaeth.
Mae Harry Souttar yn hunanynysu, tra bod Danny Batth, Nick Powell a Sam Clucas bellach ar y rhestr o chwaraewyr sydd wedi’u hanafu.
Ond gallai Ryan Shawcross ddechrau am y tro cyntaf ar ôl chwarae am 30 munud fel eilydd dros y penwythnos.
Casnewydd
Bydd Joss Labadie, capten Casnewydd, ar gael eto ar ôl gwaharddiad wrth i’w dîm geisio ymestyn eu mantais ar frig yr Ail Adran i bedwar pwynt.
Roedd Labadie allan ar gyfer y fuddugoliaeth o 2-1 dros Morecambe dros y penwythnos ar ôl pumed cerdyn melyn.
Cael a chael yw hi i’r amddiffynnwr David Longe-King wrth iddo barhau i wella o anaf i gesail y forddwyd, ond mae Ryan Taylor yn gobeithio dychwelyd ar ôl gwella o anaf i linyn y gâr ar ôl deufis allan.
Ond mae gan Grimsby lu o anafiadau.
Mae gan yr ymosodwr profiadol James Hanson anaf i’w goes, ac roedd disgwyl iddo fe a Sean Scannell gael sgan ddoe (dydd Llun, Rhagfyr 7).
Mae Matt Green, James Tilley a Max Wright allan am gyfnod amhenodol hefyd.