Mae Stephen Jones yn mynnu fod gan Gymru opsiynau yn safle’r mewnwr ar ôl colli Kieran Hardy am weddill Bencampwriaeth drwy anaf.

Cafodd ei ryddhau o garfan Cymru yn ar ôl y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr, lle’r oedd wedi sgorio cais.

Mae Tomos Williams wedi bod allan o’r garfan ar ôl cael ei anafu yn erbyn Iwerddon fis diwethaf.

Mae’n edrych fel y gallai ddychwelyd i’r daith i Rufain ar Fawrth 13, tra bod gan brif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, Gareth Davies a Lloyd Williams hefyd fel opsiynau.

“Mae lle mae hyn yn ein gadael gyda safle’r mewnwr yn syml – mae gennym dri ar ôl yn y garfan sy’n barod i fynd,” meddai Stephen Jones, Is-hyfforddwr Cymru.

“Mae Kieran wedi gweithio’n arbennig o galed ar ei gêm.

“Roedden ni’n meddwl bod ei berfformiad yn ardderchog ar y penwythnos, ac mae’n anffodus iddo nad yw mewn sefyllfa i allu adeiladu ar hynny.”

Mae Cymru bum pwynt yn glir fel arweinwyr y Chwe Gwlad, a bydd buddugoliaethau yn eu dwy gêm olaf yn sicrhau’r teitl a’r Gamp Lawn.

Maen nhw wedi trechu’r Eidalwyr 15 gwaith yn olynol, tra bod yr Azzurri wedi colli 30 gêm yn olynol yn y Chwe Gwlad.

“Dydyn ni ddim yn edrych ymhellach na’n gêm nesaf”

Ychwanegodd Stephen Jones: “Rydym wrth ein bodd gyda’r fuddugoliaeth (yn erbyn Lloegr) ac i ennill y Goron Driphlyg. Roedd yn enfawr i ni fel grŵp.

“Mae’n wych ein bod wedi ennill ein tair gêm gyntaf, ond mae gennym her fawr yn Rhufain.

“Rhaid inni oresgyn hynny’n gyntaf.

“Rydyn ni’n parchu’r Eidal, rydyn ni’n parchu’r chwaraewyr sydd ganddyn nhw, y grŵp hyfforddi sydd ganddyn nhw.

“Maen nhw’n dîm corfforol iawn, a hefyd o’m safbwynt fy hun, mae gennym lawer i wella arno yn ein gêm ymosod.

“Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn fwy effeithlon. Mae’n syml iawn. Rhaid inni gael trefn ar ein tŷ ein hunain.

“Mae (gêm yr Eidal) yn rhwystr mawr i ni, ac mae ein holl egni yn mynd i mewn i hynny.

“Dydyn ni ddim yn edrych ymhellach na’n gêm nesaf.”

Kieran Hardy allan o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad

Mae’r mewnwr wedi ei ryddhau o garfan Cymru ar ôl anafu ei goes yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr