Mae un o gefnogwr Caerdydd wedi dweud wrth golwg360 fod “neb y gallu gwadu’r gwaith da mae Mick McCarthy wedi ei wneud”.
Daw hyn ar ôl iddo gytuno i ymestyn ei gytundeb â’r Adar Gleision am ddwy flynedd.
Dim ond tan ddiwedd y tymor presennol roedd ei gytundeb gwrieddiol gyda’r clwb yn para.
Cafodd Mick McCarthy, 62, ei benodi ym mis Ionawr, ar ôl i Neil Harris gael ei ddiswyddo.
“Mae Mick yn rheolwr profiadol ac uchel ei barch… mae ei awch am waith, ei ddisgyblaeth a’i onestrwydd yn bethau rwy’n eu parchu a’u hedmygu,” meddai perchennog Caerdydd, Vincent Tan, wrth gyhoeddi’r newyddion am ymestyn y cytundeb.
“Rwy’n hyderus mai ef yw’r dyn iawn i’n clwb a’r dyn iawn i fynd â ni ymlaen.”
Ac mae Ianto Gruffydd, sy’n wreiddiol o Lanfairpwllgwyngyll ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn cytuno, er nad oedd o wedi cael ei gyffroi pan gafodd Mick McMcarthy ei benodi ym mis Ionawr.
“Does neb yn gallu gwadu’r gwaith da mae o wedi ei wneud,” meddai Ianto Gruffydd.
“Roeddwn i’n meddwl bod o’n gam yn ôl pan ddaeth o mewn, yn enwedig ar ôl approach mwy blaengar Neil Harris.
“Ond does dim amheuaeth bod approach McCarthy yn fwy effeithiol, mae o wedi symleiddio pethau i’r chwaraewyr.
“Roedd yna ganmoliaeth i waith tactegol Harris gan y chwaraewyr, ond rŵan maen nhw’n brolio eu bod nhw’n deall eu rôl yn y tîm yn well… yn gwybod be maen nhw fod i wneud.
“Dyda ni heb golli ers 10 gêm, sy’n unheard of yn y Bencampwriaeth!”
“Dyna mae timau Caerdydd wedi gwneud ers 20 mlynedd”
Dywedodd Ianto Gruffydd bod steil chwarae Mick McCarthy yn agosach i’r hyn sy’n gyfarwydd i gefnogwyr Caerdydd.
“Mae’r pump yn y cefn yn gweithio, mae o’n effeithiol.
“Dyna mae timau Caerdydd wedi gwneud ers 20 mlynedd, pêl-droed hyll, heblaw ella o dan Dave Jones.
“Abertawe ydi’r tîm sydd wedi bod yn chwarae pêl-droed neis.”
Ac yn wir, roedd Phil Stead yn cytuno â’r asesiad yma yn ei golofn yng nghylchgrawn Golwg, gan ddweud bod brand pêl-droed Mick McCarthy yn “adlewyrchu cefnogwyr y clwb, sydd erioed wedi poeni llawer am arddull ddeniadol o chwarae pêl-droed”.
Trosglwyddiadau
Un peth y mae Ianto Gruffydd yn gobeithio fydd yn parhau o dan reolaeth Mick McCarthy ydi polisi trosglwyddiadau’r clwb.
“Mae o’n poeni fi braidd, oherwydd be wnaeth Harris yn dda oedd tranfers, gafon ni Kieffer Moore am £2m, tra bod Perry Ng (sef y chwaraewr olaf i Neil Harris arwyddo) yn edrych fel ei fod o wedi bod yn chwarae i ni ers oes, er mai dim ond 23 ydi o.
“Mae Max Watters, sydd ond yn ugain oed, yn un arall, er bod o heb gael llawer o gyfle eto.”
“Dydy Jonny Williams, yr un cyntaf i ddod mewn o dan McCarthy ddim mor inspiring i fi. Ti’n siarad am foi sydd ella ddim mor effeithio a hynna.
“Sganddo fod ddim lot o goliau ac assists ac mae o bron yn 28 oed, dw i ddim eisiau mynd yn ôl i brynu chwaraewyr sy’n agosáu at ddiwedd eu gyrfa.
“A dw i’n meddwl i’r safle rhif 10, mae o’n o leiaf trydydd dewis, a bosib y bydd o’n bedwerydd pan ddaw Lee Tomlin yn ôl.
“Mae yna sôn rwan bo’ ni’n mynd ar ôl Jordan Rhodes, sy’n sefyllfa debyg rili.”
Bydd Caerdydd yn herio Huddersfield oddi-cartref yn y Bencampwriaeth heno, gyda’r gic gyntaf am chwarter i wyth.
Ond beth mae Ianto Gruffydd yn feddwl fydd y canlyniad.
“Wel… gan fod o newydd arwyddo cytundeb newydd, mae’n siŵr na colli wnawn ni!”