Llwyddodd Caerdydd o drwch blewyn i barhau eu cyfres o gemau ddiguro neithiwr – ar ôl i Huddersfield fethu cic o’r smotyn chwarter awr cyn y diwedd.
Er hyn, mae’r canlyniad di-sgôr yn golygu bod yr Adar Gleision wedi colli cyfle i ddringo i safleoedd gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth.
Hon oedd milfed gêm Mick McCarthy yn ei yrfa fel rheolwr, sydd bellach wedi ymestyn ei gychwyn diguro fel rheolwr Caerdydd i 11 gêm.
Wrth siarad ar ôl y gêm, dywedodd ei fod yn credu bod y perfformiad siomedig neithiwr o ganlyniad i flinder ar ôl llawer o gemau agos at ei gilydd.
Dywedodd hefyd ei fod wrth ei fodd o weld Yaya Sanogo yn methu’r gic o’r smotyn i Huddersfield, yn enwedig ar ôl iddo fethu â’i arwyddo i Gaerdydd.
“Dw i mor falch i Sanogo fethu’r penalti oherwydd roedden ni mewn trafodaethau iddo ymuno â ni,” meddai. “Allen ni ddim gwneud hynny oherwydd Brexit a rheolau Cymdeithas Pêl-droed Cymru, ond mae wedi llwyddo i ddod i glwb yn Lloegr ac mae Huddersfield wedi ei arwyddo.
“Pan oedd ar fin cymryd y gic o’r smotyn, ro’n i’n meddwl yn siwr y byddai’n sgorio, oherwydd pethau felly sy’n digwydd mewn pêl-droed, felly ro’n i wrth fy modd o weld y gic yn mynd ar chwâl.
“Roedd yn gêm wirioneddol galed. Wnaethon ni ddim chwarae yn arbennig o dda, er ein bod yn wirioneddol gadarn, ond mae’n debygol bod ein hamserlen brysur wedi dweud ar ein lefelau o egni.
“Roedd yn achos o benderfynu os na allwch ennill, peidiwch â chael eich curo. Dyna wnaethon ni, a dw i ddim yn meddwl bod pwynt yn ganlyniad gwael byth yn Huddersfield.”