Mae Casnewydd wedi cynyddu eu gobeithion am ddyrchafiad o Gynghrair Dau Sky Bet gyda buddugoliaeth haeddiannol 2-0 yn Colchester.

Aeth yr Alltudion ar y blaen ar ôl hanner awr ar ôl gôl gelfydd gan Joss Labadie, a nhw oedd yn rheoli’r cae am y rhan fwyaf o’r gêm. Aeth pethau’n waeth i Colchester ar y 76ed munud pan gafodd Frank Nouble, un o gyn-chwaraewyr Casnewydd, ei anfon oddi ar y cae ar ôl derbyn dau rybudd o fewn dau funud am droseddau yn erbyn Liam Shephard a Josh Sheehan.

Cafodd y fuddugoliaeth haeddiannol ei selio ddau funud wedyn ar yr 78fed munud gan sgoriodd Padraig Amand yn dilyn cic rydd gan Joss Labadie o’r dde.