Llwyddodd Abertawe i ennill buddugoliaeth ddadleuol dros Middlesborough gyda chic o’r smotyn gan Andre Ayew yn amser anafiadau’r gêm.

Roedd Ayew wedi rhoi’r Elyrch ar y blaen yn yr hanner cyntaf wrth sgorio yn ei drydedd gêm yn olynol, cyn i Sam Morsey ddod â’r sgôr yn gyfartal ym munud cyntaf yr amser anafiadau.

Yn fuan wedyn, syrthiodd Jake Bidwell o dan her George Saville yn y blwch cosbi, ac er i’r dyfarnwr Gavin Ward bwyntio at gic o’r gornel i ddechrau, dyfarnwyd cic o’r smotyn a gafodd ei gyrru i’r rhwyd gan Ayew.

Roedd rheolwr Middlesborough, Neil Warnock, yn gandryll a chafodd ei gosbi am ei brotestiadau. Roedd ei dîm wedi chwarae’n dda wrth ddal Abertawe’n ôl a rheoli’r meddiant a’r cae am rannau helaeth o’r gêm.

Hon oedd yr ail dro i gic o’r smotyn gan Andre Ayew ennill y dydd i Abertawe yr wythnos yma, ar ôl curo Stoke yn eiliadau olaf y gêm nos Fercher.