Mae gêm fideo Gymreig wedi cael ei lawrlwytho filiwn o weithiau yn ogystal ag ennill gwobr TIGA, sef ‘Oscars’ y byd gemau.

Cafodd Maid of Sker ei chynhyrchu gan Wales Interactive, cwmni o Ben-coed.

Lansion nhw dair gêm yn 2020, sef The Complex a Five Dates yn ogystal â Maid of Sker, wrth i’r diwydiant gemau weld galw aruthrol dros y cyfnodau clo.

Maen nhw i gyd wedi cael eu canmol yn fawr gan y beirniaid ac wedi bod yn llwyddiant masnachol, gyda gemau’r cwmni’n cael eu lawrlwytho pedair miliwn o weithiau a’u portffolio o 20 o deitlau wedi’u gweld dros 50 miliwn o weithiau trwy’r byd dros gyfnod o wyth mlynedd.”

Gêm arswyd am oroesi yw Maid of Sker, sydd wedi’i hysbrydoli gan chwedl y Ferch o’r Sgêr ac wedi’i leoli mewn gwesty.

Mae’r gêm wedi’i lleoli ym 1898, ac yn adrodd hanes ymerodraeth deuluol sy’n seiliedig ar artaith, caethwasiaeth, môr-ladron, a dirgelwch goruwchnaturiol sy’n mygu’r ddaear y saif y gwesty arni.

Mae’r gêm yn cynnwys fersiynau newydd arswydus o Calon Lân, Suo Gân ac Ar hyd y Nos.

“Llwyddiant cwbl Gymreig”

Dywedodd y Cyfarwyddwr Richard Pring, a gydsefydlodd Wales Interactive gyda Dr David Banner: “Cafodd Maid of Sker dderbyniad gwresog gan yr adolygwyr pan gafodd ei lansio haf diwethaf, ac mae hi bellach yn llwyddiant masnachol ysgubol, wedi’i lawrlwytho miliwn o weithiau.

“Mae’n llwyddiant cwbl Gymreig, gyda stori Gymreig gref, ac wedi’i chynhyrchu yn ein stiwdio ym Mhen-coed – bu rhai o’r tîm yn gweithio arni yn eu cartrefi dros y cyfnod clo hyd yn oed.”

“Un o gemau arswyd gorau’r flwyddyn”

Y llynedd, dywedodd y wefan Rely on Horror: “Mae Maid of Sker yn amlwg yn un o gemau arswyd gorau’r flwyddyn hyd yma, ac yn dal ei thir hyd yn oed yn erbyn mawrion fel Resident Evil 3. 9/10”

Ychwanegodd Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol: “Mae Wales Interactive yn enghraifft wych o gwmni masnachol llwyddiannus o Gymru sydd â’r talent a’r uchelgais i fod yn un o gwmnïau gemau gorau’r byd.

“Mae Maid of Sker wedi mynd â Chymru a’r Gymraeg at gynulleidfa fyd-eang newydd trwy gyfrwng gemau fideo, cymuned sydd wedi tyfu’n aruthrol yn ystod y pandemig.”