Mae dyn o Ddinbych wedi cwyno am y ffaith fod yn rhaid iddo gadarnhau cyfeiriad drwy gyfrwng y Saesneg wrth lenwi’r Cyfrifiad.

Dywedodd Eifion Lloyd Jones wrth golwg360 nad oedd hynny yn “ddigon da” ar ôl iddo wrthod cadarnhau ei gyfeiriad yn y Saesneg.

Caif Cyfrifiad 2021 ei gynnal ar Fawrth 21 yng Nghymru, yn dilyn gosod Rheoliadau Cyfrifiad (Cymru) 2020 gerbron y Senedd ym mis Mai 2020.

Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig a’i swyddfa weithredol, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), sydd yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr.

“Mi oedd y llythyr ges i yn ddwyieithog, yr amlen yn ddwy ieithog… gwefan Gymraeg… ond ar ôl i mi lenwi rhes o rifau a llythrennau sy’n unigol i mi fel derbynnydd roedd y wefan i hyn wedyn yn cynnig fy nghyfeiriad a gofyn a oedd o’n gywir.

“Ond roedd y cyfeiriad hwnnw yn dweud Denbeigh yn hytrach na Dinbych.

“Roedd y cyfarwyddyd yn Gymraeg, ond wrth nodi’r cyfeiriad cywir mae disgwyl i ni bobol sy’n byw mewn ardaloedd ddwyieithog dderbyn mai Saesneg ydi’r cyfeiriad.”

Pan gwynodd Eifion Lloyd Jones am hyn, cafodd addewid y byddai’n derbyn ymateb ymhen deuddydd.

“Dio’m ddigon da yn yr ystyr na ddylai o fod yn Saesneg, ond cawn weld beth fydd eu hymateb,” meddai.

“Gobeithio y byddan nhw’n diolch i mi am dynnu sylw ac yn addo cywiro hyn.”

Yn y cyfamser, mae’n galw ar Gymry eraill hefyd i gwyno.

“Dw i’n gobeithio y bydd yna lu o bobol yn ymateb yn yr un modd er mwyn cryfhau’r achos a rhag iddyn nhw anwybyddu un llais bach yn yr anialwch.

“Y mwyaf o ymateb fydd yna, y tebyca’ y byddan nhw o’i gywiro.”

Mae golwg360 wedi gofyn i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol am ymateb.

Annog y Cymry i lenwi’r Cyfrifiad ar-lein eleni

“Mae’n hanfodol bod gennym wybodaeth fanwl a chyfredol er mwyn gwella ein dealltwriaeth o’r pandemig”