Mae trafodaethau wedi cael eu cynnal “ar y lefelau uchaf” ynghylch noddi newyddiaduraeth Saesneg yng Nghymru ag arian cyhoeddus, yn ôl un o weinidogion y Llywodraeth.
Daeth sylwadau Dafydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, wrth iddo roi tystiolaeth i un o bwyllgorau’r Senedd ddydd Iau.
Yn ymateb i gwestiwn am gefnogi newyddiaduraeth Saesneg yng Nghymru, dywedodd bod gweinidogion y Llywodraeth a Chomisiwn y Senedd wedi bod ynghlwm â thrafodaethau.
A thynnodd sylw at “fodel Golwg ar gyfer yr iaith Gymraeg” gan nodi mai dyna yw ei hoff opsiwn o’r rheiny sy’n cael eu trafod.
Mae golwg360 yn derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru trwy law Cyngor Llyfrau Cymru, ac felly yn ei hanfod roedd yn dweud yr hoffai weld model ariannu tebyg yn y Saesneg.
Ariannu’n gydradd?
“I mi, mae Cymru’n wlad ddwyieithog,” meddai. “Ac felly dylwn ariannu pob dim yn gydradd.
“Mae angen newyddiaduraeth Saesneg effeithiol ar Gymru, ac ochr yn ochr â hynny mae angen darpariaeth debyg yn y Gymraeg.
“Felly [dw i’n hoffi] model Golwg lle mae Cyngor Llyfrau Cymru, y corff hyd braich annibynnol, yn sicrhau bod y cyllid yn cael ei ddosbarthu yn iawn.
“Hoffwn pe bai system debyg ar gael i newyddiaduraeth Saesneg … Y peth pwysig yw bod yna berthynas hyd braich.”
Fe wnaeth y gweinidog hefyd ddatgelu bod “sefydliadau masnachol” wedi “gwneud cynigion”, cyn bwrw ati i ddweud y bddai’n well ganddo “fecanwaith cyllido sector cyhoeddus”.
“Byddai hynny’n sicrhau annibyniaeth o bwysau masnachol, neu bwysau gwleidyddol,” meddai.
Dywedodd hefyd ei fod yn “optimistaidd” y byddai’r Llywodraeth yn ymyrryd yn y pen draw i helpu newyddiaduraeth Saesneg Cymru.
Ym mis Tachwedd y llynedd dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi, bod yna “ddadl gref” tros greu model Saesneg tebyg i fodel golwg360 – gallwch ddarllen mwy isod.
Ym mis Tachwedd y llynedd dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi, bod yna “ddadl gref” tros greu model Saesneg tebyg i fodel golwg360 – gallwch ddarllen mwy isod.
Lee Waters: “Dadl gref” tros greu gwefan Saesneg debyg i golwg360
Dim “digwyddiadau mawr” dros yr haf
Bu’r gweinidog yn trafod llu o faterion yn ystod y sesiwn gerbron y pwyllgor.
Yn ymateb i gwestiwn am godi cyfyngiadau ar ddigwyddiadau (cyngherddau, a gwyliau ac ati), pwysleisiodd na fyddai’r rhain yn mynd rhagddynt eleni.
“Does dim bwriad yng Nghymru i agor digwyddiadau mawr yn yr haf,” meddai.
“Fyddwn ni ddim yn annog agor unrhyw beth mawr heblaw bod y sefyllfa iechyd cyhoeddus wedi gwella yn sylweddol fwy nag y mae hi hyd yn oed ar hyn o bryd – er bod pethau i weld yn gwella,” atega.
“Dyna yw’r agwedd ofalus mae’r Llywodraeth wedi ei gymryd.”
Wrth drafod y sector digwyddiadau dywedodd bod y Llywodraeth “yn deall eu gofidion”.
Ategodd ei fod yn “gyndyn iawn” i roi dyddiadau penodol o ran ailagor, a hynny am bod yr argyfwng yn parhau i fod mor ansicr.
Ar un adeg codwyd y mater o ddiogelu enwau lleoedd yng Nghymru (fis diwethaf dywedodd Gweinidog y Gymraeg ei bod yn “poeni” am y mater).
Dywedodd bod y Llywodraeth yn “ystyried opsiynau pellach” ac efallai y bydd hi’n “dychwelyd” at y mater rhyw ben.
Y Llyfrgell Gen angen “edrych tuag allan”
Yn naturiol bu peth trafodaeth am y Llyfrgell Genedlaethol.
Fis diwethaf cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’r sefydliad yn derbyn £2.25m – a hynny’n sgil pryderon mawr am ei gyflwr ariannol.
Yn y sesiwn, dywedodd Dafydd Elis-Thomas ei fod yn “ymddiried” yn y Llyfrgell i gymryd camau er mwyn gwella ei sefyllfa ariannol.
Hefyd mi fanteisiodd ar y cyfle i rannu ei weledigaeth am ddyfodol y Llyfrgell – mae “edrych tuag allan” yn “hanfodol” ar gyfer ei dyfodol, meddai.
“O’n i wastad yn meddwl ei fod yn bwysig i’r Llyfrgell Gen fod yn sefydliad cenedlaethol sydd yn gallu cysylltu drwy lyfrgelloedd eraill Cymru – sydd mewn perchnogaeth neu weinyddiaeth llywodraeth leol – neu brifysgolion, neu beth bynnag ydyn nhw.
“[Mae’n bwysig] bod yna bartneriaeth newydd yn datblygu yn gadarn rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a bod yr ymweliadau digidol a gweithgaredd y llyfrgell yn cynyddu yn sylweddol yn ystod y cyfnod yma – a phan fyddwn wedi dod mas o’r pla yma.”