Mae angen datganoli darlledu i Gymru er mwyn sicrhau bod gennym y “cyfryngau sydd eu hangen arnom fel cenedl”.
Dyna yw casgliad adroddiad newydd gan Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd.
Mae aelodau’r pwyllgor yn unfrydol o’r farn bod angen datganoli’r pwerau yma, a bellach wedi cyflwyno llu o argymhellion ynghylch y mater.
“Mae’r cynnwys sydd ar gael i Gymru ar y cyfryngau yn annigonol,” meddai Cadeirydd y pwyllgor, Bethan Sayed.
“Does gennym ni ddim y ddarpariaeth newyddion a materion cyfoes sydd ei hangen ar Gymru ac mae meysydd eraill – fel cynnwys ar gyfer plant, comedi a drama – hefyd wedi’u tangynrychioli, sy’n golygu nad ydym yn gweld adlewyrchiad o’n hunain ar ein sgriniau.
“Mae’r Pwyllgor yn cytuno bod angen mwy o bŵer ar Gymru dros ddarlledu,” atega, “er mwyn sicrhau y gallwn ddatblygu’r cyfryngau sydd eu hangen arnom fel cenedl.
“Mae rhai’n ffafrio datganoli pwerau darlledu i’r Senedd yn llawn, ac eraill o blaid pwerau newydd mwy cyfyngedig mewn meysydd penodol.”
Yr argymhellion
Ymhlith y deg argymhelliad mae’r canlynol:
- Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddatganoli pwerau dros S4C a materion eraill sy’n ymwneud â darlledu Cymraeg er gwasanaeth cyhoeddus, i Gymru
- Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig reoleiddio gwasanaethau ffrydio byd-eang i gryfhau’r ecosystem cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus
- Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ystyried ymestyn ardollau i gynnwys cwmnïau ar-lein mawr eraill, fel peiriannau chwilio a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol
- Dylai Llywodraeth Cymru fynd ati ar unwaith i sefydlu cronfa ganolog i gefnogi newyddiaduraeth sy’n cael ei darparu o hyd braich er mwyn sicrhau didueddrwydd
“Trobwynt hanesyddol”
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu argymhellion yr adroddiad gan ddweud bod y “consensws trawsbleidiol hwn yn drobwynt yn hanes darlledu yng Nghymru”.
Dywedodd Cadeirydd Grŵp Darlledu’r mudiad, Elfed Wyn Jones: “Mae hyn yn newyddion calonogol iawn. Yn dilyn blynyddoedd o ymgyrchu gan ymgyrchwyr, ceir yma, am y tro cyntaf erioed, gonsensws trawsbleidiol o blaid datganoli darlledu. Mae’r consensws trawsbleidiol hwn yn drobwynt yn hanes yr ymgyrch, ac yn wir, darlledu yng Nghymru.
“Er mwyn gwireddu dymuniad y Pwyllgor am ddatganoli grymoedd darlledu i Gymru, bydd angen i lywodraeth nesaf Cymru sefydlu corff rheoleiddio Cymreig newydd fyddai’n cymryd lle Ofcom. Byddai’r corff annibynnol hwn yn gyfrifol am reoleiddio meysydd cyfathrebu a thelathrebu er lles y Gymraeg a democratiaeth Cymru.”
Ychwanegodd: “Mae’r adroddiad hwn yn rhoi mandad i ba bynnag blaid sy’n ffurfio’r llywodraeth nesaf. Mae hanfodol felly ein bod yn grymuso’r Senedd gyda’r holl bwerau fydd eu hangen er mwyn newid polisi darlledu a thelathrebu er lles y Gymraeg a democratiaeth Cymru. Dyma gyfle gwirioneddol inni aeddfedu fel gwlad ddemocrataidd a sicrhau y bydd y Gymraeg yn addasu’n ddigonol i’r oes ddigidol. Bydd sefydlu corff penodol, Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol, yn gwneud cyfraniad pwysig at gynyddu defnydd y Gymraeg yn yr oes ddigidol, fel rhan o agenda ‘Mwy na Miliwn’ ein llywodraeth genedlaethol nesaf.”