Fe fydd dyn 31 oed yn ymddangos gerbron ynadon heddiw ar gyhuddiad o lofruddio merch 16 oed a fu farw wedi digwyddiad ym mwyty Tsieineaidd ei theulu yn Nhreorci.

Mae Chun Xu, wedi’i gyhuddo o lofruddio Wenjing Lin – oedd hefyd yn cael ei hadnabod fel Wenjing Xu – a cheisio llofruddio dyn 38 oed.

Mae disgwyl i Chun Xu fynd gerbron Llys Ynadon Merthyr Tudful heddiw (dydd Iau, Mawrth 11), meddai Heddlu’r De.

Mae’n debyg nad yw Chun Xu yn perthyn i Wenjing Lin.

Cafodd marwolaeth Wenjing Lin ei chadarnhau yn dilyn adroddiadau o drywanu yn Nhreorci ar Fawrth 5. Cafodd dau ddyn yn eu 30au hefyd eu hanafu.

Cafodd swyddogion eu galw i Stryd Baglan yn Ynyswen tua hanner dydd yn dilyn adroddiadau am ymosodiad ym mwyty tecawe Blue Sky.

Dywed yr heddlu nad yw dyn 38 oed a gafodd ei arestio bellach yn cael ei amau o unrhyw drosedd a’i fod mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Mae Ysgol Uwchradd Treorci, lle’r oedd Wenjing Lin yn ddisgybl, wedi dweud mewn datganiad bod ei marwolaeth wedi cael “effaith enbyd” ar athrawon a disgyblion, yn enwedig ei ffrindiau a’i chyd-ddisgyblion ym Mlwyddyn 11.

“Fe fydd yr ysgol yn cofio Wenjing Lin fel rôl fodel bositif. Roedd hi’n hynod o weithgar ac yn astudio ar gyfer ei harholiadau TGAU ac yn gobeithio astudio seicoleg a mathemateg a mathemateg pellach ar gyfer Safon Uwch.”

Ychwanegodd ei bod “wrth galon” ei chylch o ffrindiau ac yn “glên, angerddol ac uchelgeisiol”.