Mae yna “rôl i’r wladwriaeth” wrth gefnogi’r wasg yng Nghymru, ac mae yna “ddadl gref” tros greu gwefan Saesneg tebyg i golwg360.

Dyna mae Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi, wedi ei ddweud yn ystod ymddangosiad diweddar ar y podlediad Hiraeth.

Bu’r dirprwy weinidog yn trafod diffygion y wasg yng Nghymru, ymhlith amryw o bynciau eraill, ac roedd yn cydnabod y gallai’r llywodraeth estyn help llaw.

“Dw i’n credu bod yna rôl i’r wladwriaeth,” meddai.

“Ond dw i’n credu bod yn rhaid i hynny ddigwydd â phellter lled-braich.

“Wnaeth Llywodraeth Cymru gymryd cam yn y maes yma adeg [Llywodraeth glymblaid Llafur-Plaid] Cymru’n Un pan ffurfiwyd cyllid ar gyfer gwasanaeth newyddion Cymraeg.

“Golwg360 wnaeth ennill hynny – lled-braich trwy Gyngor Llyfrau Cymru.

“Dw i’n credu bod yna ddadl gref ar gyfer gwasanaeth Saesneg tebyg er mwyn llenwi’r bylchau sydd yna.”

Er hynny, dywedodd fod yna “gyndynrwydd gan lywodraeth i fynd yno” ac ategodd bod yna “broblem o ran ariannu” y fath fenter.

Cafodd golwg360 ei lansio yn 2009, ac mae’r wefan yn dal i gael ei noddi gan y Llywodraeth trwy Gyngor Llyfrau Cymru.

“Pwy sydd yn fy nal i gyfrif?”

Yn siarad ar y podlediad, rhannodd Lee Waters ei bryderon am effaith newidiadau digidol ar newyddiaduraeth yng Nghymru.

Roedd gan Lanelli, ei etholaeth, ddau bapur pan oedd yn iau, meddai, ond bellach does dim un yno.

A’r wasg ysgrifenedig yn crebachu, a gyda phlatfformau newyddion yn osgoi materion dwys,  dywedodd ei fod yn bryderus am oblygiadau hynny i ddemocratiaeth.

“Pwy sydd yn fy nal i i gyfrif yn Llanelli y tu allan i etholiadau?” meddai.

“Dw i ddim yn siŵr. Dw i wir ddim yn siŵr.

“Dyw’r rhan fwyaf o bobol ddim yn gwybod beth ydw i’n ei wneud.

“Dw i’n gwneud fy ngorau trwy gyfryngau cymdeithasol i hysbysu a thynnu sylw. Ond a bod yn onest, sawl gwaith ydw i wedi cael fy ngorfodi i deimlo’n anghyffyrddus am fy mhenderfyniadau?

“Neu wedi cael fy herio i’r cyfiawnhau? Alla’ i feddwl am un enghraifft mewn pum mlynedd. A doedd hynny ddim oherwydd y wasg leol. A dyw hynny ddim yn iawn. Dylai pobol gael eu dwyn i gyfrif.”

Annibyniaeth a’r Blaid Lafur

Bu’r dirprwy weinidog hefyd yn trafod y syniad o wladoli’r diwydiant dur, ac annibyniaeth.

Wrth siarad am dwf YesCymru, dywedodd ei fod yn “ffeindio rhamant y cyfan yn ddeniadol. Dw i’n Gymro balch”.

Dywedodd ei fod yn “gwrthod” y syniad fod Cymru’n rhy dlawd i fod yn annibynnol, ond ategodd fod “yna bob math o ffactorau ymarferol sy’n gwneud annibyniaeth yn anodd – er nid yn amhosib”.

Mae’n ystyried ei hun yn unoliaethwr, ac yn deisyfu Deyrnas Unedig ffederal, ond mae’n cydnabod y gallai’r sefyllfa gymhlethu yn y dyfodol.

“Pe bai’r Alban yn gadael – a does dim byd anochel am hynny – ac rydym ni allan o’r Undeb Ewropeaidd, mae hynny’n gêm gwbl wahanol,” meddai.

“Mae wedyn yn dod yn anodd i ni ddychmygu’r undeb y mae pobol wedi’i rhamanteiddio, pan rydych mwy na thebyg yn lando lan â Lloegr a Chymru lle mae Cymru’n troi’n ‘Birmingham fawr’ yn llygaid rhai yn Llundain.

“A lle mae’r posibiliad o lywodraeth nad yw’n un asgell dde yn dod yn fwyfwy anodd ei wireddu. A does dim gyda chi ddylanwad Ewropeaidd i ddod â balans i hynny.

“Dw i’n credu bod hynny’n peri her wleidyddol sylweddol i bobol sydd yn credu bod yr undeb yn beth da, ac i’r ffordd mai’r Blaid Lafur yn diystyru’r ddadl yn ddi-hid.

“Felly dw i’n credu bod angen i ni roi cryn ystyriaeth i sut y byddwn yn ymateb pe bai’r sefyllfa yna yn codi.”