Mae Eurostar wedi rhybuddio eu bod yn “brwydro i oroesi” wrth alw am fwy o gymorth ariannol gan y Llywodraeth.

Honnodd y gwasanaeth rheilffyrdd rhyngwladol ei fod yn cael ei drin yn annheg ar ôl i’r sector hedfan dderbyn cymorth ychwanegol oherwydd pandemig y coronafeirws.

Ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 24), cyhoeddodd y Llywodraeth y bydd yn talu hyd at £8m o ardrethi busnes ym mhob maes awyr yn Lloegr.

“Mae’r cynllun newydd o ryddhad ardrethi i feysydd awyr yn rhoi Eurostar o dan anfantais yn erbyn ei gystadleuwyr uniongyrchol, cwmnïau awyrennau,” meddai Eurostar mewn datganiad.

“Mae Eurostar wedi cael ei adael yn brwydro i oroesi yn erbyn gostyngiad o 95% mewn galw, tra bod awyrennau wedi derbyn dros £1.8bn o gymorth drwy fenthyciadau, gohirio trethi a chyllido.

“Byddem yn gofyn i’r cynllun hwn gael ei ymestyn i gynnwys gwasanaethau rheilffyrdd rhyngwladol, ac yn fwy cyffredinol i’r Llywodraeth ymgorffori rheilffyrdd cyflym yn ei chefnogaeth i’r sector teithio.”

Mae Eurostar wedi torri eu hamserlenni oherwydd y cwymp yn y galw am deithio tramor.

Dim ond un trên mae’n ei redeg i bob cyfeiriad rhwng Llundain a Pharis, ac rhwng Llundain ac Amsterdam drwy Frwsel.

Roedd y cwmni’n gweithredu dros 50 o wasanaethau dyddiol cyn y pandemig.

“Rydym yn galw ar y Llywodraeth i gamu i mewn ar unwaith i roi cymorth ariannol i Eurostar a gwarchod y miloedd o bobol sy’n cael eu cyflogi gan y gwasanaeth,” meddai Mick Cash, ysgrifennydd cyffredinol undeb y Rheilffyrdd, y Môr a Thrafnidiaeth.

“Mae’n gwbl anghywir nad yw Eurostar, gwasanaeth ecogyfeillgar sy’n esiampl i ddyfodol ein rheilffyrdd, yn cael yr un math o gymorth ariannol sy’n cael ei gynnig i’r meysydd awyr.”